Bwthyn hunan-arlwy yn cysgu 5
Wedi'i adeiladu yn 1969, dyma un o gampweithiau olaf Syr Clough Williams-Ellis. Yn cynnwys rhyfeddodau pensaernïol fel y ffenestri trompe l'eoeil a'r Heliwr, cerflun carreg o'r 18fed ganrif, mae'r Tŷ Clogwyn yn gyflwyniad trawiadol i'r pentref. Gallwch ddisgwyl golygfeydd syfrdanol dros yr aber a steil clasurol o fewn y pedair wal.