AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Y Gromen

Y Gromen

Arddangosfa'r Gromen.


"Arddangosfa'r Gromen."


Yn ystod eich ymweliad â phentref Portmeirion, cymerwch y cyfle i ymweld ag arddangosfa’r Gromen.

 

Bydd y Gromen ar agor bob prynhawn. (Cedwir yr hawl i newid oriau agor y Gromen ar fyr rybudd, pan fo angen)

 

Adwaenir y Gromen weithiau fel y Pantheon. Mae’r Gromen yn adeilad rhestredig gradd II a godwyd rhwng 1960-61.

Ceir ynddi gyfoeth o hanes i’w weld a gwybodaeth i’w darllen.

 

Yn eu plith, dyma rai o'r eitemau gwreiddiol a welwch yma -

Tŷ doliau godidog a ddyluniwyd gan Clough Williams-Ellis ar gyfer merch i gleient yn y 1920au. Symudwyd hwn o ben grisiau’r Gromen i’r llawr felly gall ein hymwelwyr ei werthfawrogi’n agos atynt.

Un o’n heitemau mwyaf poblogaidd yw’r llong gopr, ac mae cerflun gwreiddiol Sant Pedr yn ei gramen dryloyw yn edrych draw tuag at ei olynydd a hwnnw’n pregethu o’i falconi ar y Tolldy dan ganopi bach i’w gadw’n sych.

Arddangoswyd o’r newydd arwydd gwreiddiol o Neuadd Ercwlff, a baentiwyd gan Hans Feibusch. Gwêl yr ymwelydd craff os edrycho ar y braslun gwreiddiol, y gallai cynfas enfawr Feibusch sy’n coffáu urddo Clough yn farchog, fod wedi troi allan yn dra gwahanol …

Am y tro cyntaf ym Mhortmeirion, ceir detholiad o eitemau o’r gyfres lestri ‘Yr Hyn a Welodd y Bwtler’, un o hen gyfresi Crochenwaith Portmeirion. Ystyriwyd  rhain yn rhy feiddgar a mentrus i’w cynnig ar werth yn y 1970au ac felly nis gwelwyd nhw erioed ar y farchnad agored. Arddangosir hefyd gasgliad o handlenni tynnu cwrw a ddyluniwyd gan Susan Williams-Ellis ar gyfer Gwesty Portmeirion ddechrau’r 1960au.

Ychwanegir maes o law i’r arddangosfa ddarnau pensaernïol, gosodiadau, a ffitiadau, a gasglwyd ynghyd gan Clough Williams-Ellis fel stoc ar gyfer ei ‘Gartref i Adeiladau Cwymp’, yn ogystal ag eitemau celfyddyd forwrol a chelfyddyd y werin.

Yn ogystal â'r creiriau arferol, cafwyd nifer o eitemau newydd i ennyn eich diddordeb. Yn eu plith ceir model o ben Bendigeidfran, sef darn a ddefnyddiwyd gan ein Prif Gogydd Mark Threadgill wrth iddo gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth  ‘The Great British Menu’ ar y BBC.

Yn olaf, mae casgliad o hen ddodrefn bwthyn Portmeirion a drawsnewidiwyd gan Rose Fulbright, a ddyluniwyd ac artist preswyl yn y Gromen ym mis Ebrill, a’i noddwr, Annie Sloan, a ddyfeisiodd y paentiau sialc hyfryd y maent wedi’u haddurno â nhw. Mae Rose yn or-wyres i Clough Williams-Ellis, ac yn wyres i Susan Williams-Ellis, sefydlydd Crochenwaith Portmeirion. Cynhaliwyd y cyfnod preswyl ar y cyd â Sefydliad Susan Williams-Ellis, sydd wedi’i leoli ym Mhlas Brondanw www.plasbrondanw.org, ar gyfer thema 2024, Trawsnewid.

Mae rhywfaint o waith Susan, a gwaith celf gan artistiaid a ysbrydolwyd gan Susan, i’w gweld yma: https://www.bonusprint.co.uk/view-online-photo-book?widgetId=96195e4c-d828-4d4f-9ed2-c9a50c33530f.



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more