Pecyn hyd at 35 o westeion
Mae'r Pecyn Rhododendron yn berffaith ar gyfer priodasau agos atoch gyda rhwng 20 o 35 o westeion. Mae'r pecyn priodas hwn ar gael o ddydd Sul i Ddydd Iau ac mae'n cynnwys hyd at 35 o westeion ar gyfer y seremoni sifil yn Neuadd Tudur.
Bydd y pecyn hwn hefyd yn cynnwys derbyniad Siampaen gyda danteithion yng Ngwesty Portmeirion, y Wledd Briodas (tri chwrs gyda choffi a melysfwyd) ym Mwyty'r Traeth, ystafell breifat ym mhen draw prif fwyty Gwesty Portmeirion, detholiad o winoedd o'ch dewis o blith rhai label Portmeirion, dŵr llonydd a byrlymus, gwydraid o Siampaen ar gyfer y llwnc-destun, llofft i'r pâr priod a gostyngiad o 15% oddi ar bris llety gwely a brecwast i hyd at 10 yestafell am un noson yn unig.
*Gofynnwn yn glen i'r holl westeion fod wrth y byrddau ar gyfer y wledd briodas erbyn 2:30 o'r gloch y pnawn.