AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Y Prisoner

Y Prisoner

Nid rhif mohonof ond dyn rhydd


"Pentref Portmeirion, yn fy marn i, oedd prif seren y sioe. "


Rhoes pentref Portmeirion gefndir delfrydol i Patrick McGoohan ar gyfer ei gyfres deledu arloesol a chlasurol y Prisoner, ganol y 1960au.

Patrick McGoohan, carcharor rhif 6, oedd seren cyfres y Prisoner ac hefyd creawdwr y gyfres ac awdur nifer o'r penodau.

Y Prisoner oedd un o'r cyfresi teledu mwyaf dylanwadol o'r 1960au ledled y byd. Dywedir bod y Beatles yn wylio'n gyson. Cadarnhawyd statws cwlt y gyfres gyda sefydlu cymdeithas werthfawrogi'r Prisoner, 6 o 1, yn y 1970au. 

Mae arddull weledol y gyfres yn drawiadol. Mae'r cyfuniad o'r bensaerniaeth Eidalaidd a'r offer technoleg yn creu cyfuniad rhyfedd, heb sôn am y swigod gwynt anferth sy'n gwarchod y terfynau a'r camerâu diogelwch cylch-cyfyng.

Bob blwyddyn, bydd ffans y gyfres yn cynnal penwythnos y Prisoner ym Mhortmeirion gyda digwyddiadau cyhoeddus, gan gynnwys yr Etholiad, Theatr Tally-Ho, a'r gwyddbwyll dynol. Mae gennym Siop y Prisoner yma hefyd gyda dillad a chofroddion o'r gyfres. 



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more