Parcio
Mae gennym faes parcio pwrpasol i’r anabl yn agos i’r brif fynedfa. Os gwelwch yn dda parcio a gwneud eich ffordd i'r tollborth, nid oes angen i chi ymuno â'r prif giw. Sicrhewch fod gennych eich prawf - llun o ddwy ochr eich bathodyn glas neu gopi o'ch llythyr PIP, DWP gyda chi.
Mae yna le parcio anabl wrth ymyl y Caffi Glas yng nghanol y pentref hefyd, a dau le parcio anabl o flaen prif adeilad y Gwesty.
Mynediad Gwastad
Mae gennym gadeiriau olwynion i’w benthyg o’r Tollborth.
Mae pob un o brif rannau’r Pentref yn hygyrch i gadeiriau olwynion, yn cynnwys y Ganolfan Groeso, Sgwâr y Batri, Colonâd Bryste a Sgwâr y Pentref, Siop y Llong, Neuadd y Dref a’r siopau o’i gwmpas, Gwesty Portmeirion, Castell Deudraeth a’r Llwybr Arfordirol.
Dim ond ar droed y gellir cyrraedd y Theatr Glyweled a Thrên y Gwyllt.
Mae yma elltydd serth a llwybrau anwastad. Gweler ein Cynllun Hygyrchedd ar waelod y dudalen hon, os gwelwch yn dda.
Cymorth Gweledol
Mae gan ffenestri a drysau gwydr y Pentref farciau cyferbynnedd uchel ac mae ein grisiau wedi’u marcio’n glir. Mae’r prif arwyddion gwybodaeth mewn print bras ac mae gennym sioe glyweled yn ogystal â sawl seinwedd o gwmpas y Pentref. Mae bwydlenni print bras ar gael ar gais.
Yn rhai llefydd yma, mae’r golau’n wan. Mae llwybrau troed anwastad o gwmpas y Pentref, ac anogwn ein holl ymwelwyr i gymryd pwyll wrth ddefnyddio’r llefydd hyn.
Cyffredinol
Mae gennym bolisi tocyn am ddim ar gyfer cynorthwywyr personol a gofalwyr, trwy ddangos Bathodyn Glas neu lythyr awdurdodi gan y DWP (PIP).