Blas yr Eidal mewn nes ardal
Bydd pentref Portmeirion ar gau tan 1af Ebrill 2021 os caiff y cyfyngiadau cyfredol eu codi mewn pryd.
Os oes gennych chi gwestiwn am dan eich gwyliau hefo ni, plîs e-bostiwch aros@portmeirion.cymru
Profwch hud a lledrith noson ym Mhortmeirion. Gwyliwch y wawr yn torri dros Foel Ysgyfarnogod; gwyliwch y llanw yn llenwi'r Traeth Bach. Mae’r pentref mewn lle delfrydol ar ochr ddeheuol penrhyn y ddau draeth (a roes ei enw i bentref Penrhyndeudraeth gerllaw).
Sylwch mai deg tan chwech yw oriau agor pwll nofio awyr agored y gwesty, saith diwrnod yr wythnos tan 28ain o Fedi. Neilltuir defnydd y pwll i westeion preswyl y Gwesty, Castell Deudraeth a'r bythynnon hunan-arlwyo.
Gwarantir y pris gorau am lety os archebwch arlein ar y wefan hon. Mae ein prisiau llety yn cynnwys TAW o 5% (tan 12fed Ionawr 2021, ar ôl hynny fydd TAW yn codi i 20%).