Oriel Gelf yng nghanol Pentref Portmeirion
Yn Oriel Rob Piercy ym Mhortmeirion ceir detholiad o ddyfrlliwiau, printiau a chardiau cyfarch gan yr arlunydd lleol.
Mae Rob Piercy yn aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig a Chymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru ac mae wedi arddangos ei waith mewn nifer o gystadlaethau uchel eu bri ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Pentref Portmeirion wedi bod yn ysbrydoliaeth i Rob, ac wedi dylanwadu ar ei luniau i’r fath raddau ei fod wedi cyhoeddi llyfr o’i luniau dyfrlliw o Bortmeirion, “Portmeirion: Persbectif sy’n Pontio Sawl Degawd", yn 2012.
Gallwch weld rhywfaint o waith celf Rob yn yr oriel isod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio Oriel Rob Piercy ar Sgwâr y Batri’r tro nesaf y byddwch yn ymweld â Phortmeirion.
**Noder nad yw talebau anrheg Portmeirion yn adenilladwy yma, nid yw oriel Rob Piercy yn rhan o siopau Portmeirion.**