LLEOLIAD DELFRYDOL AR GYFER FFILMIO A THYNNU LLUNIAU
Pentref Eidalaidd lliwgar yw Portmeirion a gynlluniwyd gan y pensaer Clough Williams-Ellis yn 1926 a'i adeiladu dros gyfnod o 50 mlynedd.
Mae yma bensaernïaeth anarferol gyda lliwiau arfordir Môr Canoldir a golygfeydd ysblennydd, 70 erw o goedwigoedd a thraethau tywodlyd. Mae'r lleoliad ar lan Afon Dwyryd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw brosiect sydd angen cefndir lliwgar gyda harddwch byd natur yn gefndir.
Fe'i defnyddiwyd sawl gwaith ar gyfer lleoliadau teledu a ffilm, gan gynnwys KIPPS (1941), DANGER MAN (1959), THE GREEN HELMET (1961), DOCTOR WHO (1976), CITIZEN SMITH (1980), BRIDESHEAD REVISITED (1981), TREASURE HUNT (1984), THE TRIPODS (1985), TOP GEAR (1987), THE LAUGHING PRISONER (1987), UNDER SUSPICION (1992) a COLD FEET (2003) i enwi rhai o blith nifer.
Y gyfres deledu enwocaf a ffilmiwyd yma yw Y PRISONER a ffilmiwyd ym 1966 a 1967. Bydd cynhadledd dilynwyr y gyfres yn cael ei chynnal yma bob blwyddyn.
Gyda'i liwiau pastel a'i bensaernïaeth eiconig, mae Portmeirion wedi cael ei ddefnyddio fel cefndir lluniau dros y blynyddoedd. Nid yn unig mae'r lliwiau'n awgrymu hinsawdd gynhesach Môr y Canoldir, mae llawer o gwmnïau wedi defnyddio'r Traeth Bach, y pwll nofio, yr amrywiaeth eang o goed a llwyni a'r tirlun naturiol.
Mae Portmeirion yn lleoliad delfrydol ar gyfer pob math o waith ffotograffiaeth, tu mewn a thu allan, gyda chyfleusterau ystafell werdd breifat ar gael yn Neuadd Tudur yng nghanol y pentref. Mae llety ar gael yn ogystal â chymorth ein Rheolwr Lleoliadau a chludiant ar y safle.
Am brisiau, ymholiadau ac argaeledd, cysylltwch â ni ar lleoliad@portmeirion.cymru