Tri llawr o nwyddau i’r cartref a chaffi
Mae Siop Fawr Portmeirion wedi'i leoli ar Stryd Fawr, Porthmadog. Mae ynddi dri llawr o nwyddau i’r cartref a chaffi. Tybir mai’r siop hon, Kerfoots gynt, yw’r siop adrannol hynaf yng Ngogledd Cymru, ac mae wedi bod wrth galon Stryd Fawr Porthmadog ers 1874.
Mae’n ganolbwynt newydd i siopau Portmeirion, yn gwerthu nwyddau i’r cartref gan frandiau mawr yn cynnwys Sophie Conran, Emma Bridgewater a Smeg yn ogystal â dodrefn meddal Melin Tregwynt. Mae crochenwaith Portmeirion hefyd ar gael yno, yn cynnwys cyfres newydd Botanic Garden a’r gyfres newydd Atrium.
Mae tu mewn newydd y siop yn olau ac yn braf, a’r grisiau troellog rhestredig yw’r brif nodwedd ar lawr y siop o hyd. Mae’r caffi ar y llawr cyntaf, Caffi Siop Fawr, yn gweini bwydlen amrywiol yn cynnwys dewis o salad a bwyd môr, yn ogystal â the prynhawn, cacennau cartref a hufen iâ Portmeirion.
Cydnabyddwn ddifrifoldeb alergeddau bwyd a gofynnwn i chi ddweud ymlaen llaw am unrhyw alergeddau a allai fod gennych a hysbysu’r staff ar y diwrnod. Cymerwn ofal mawr i leihau’r risg o groeshalogi ond nid cegin ddi-alergedd yw hon ac rydym yn trin cynhwysion alergaidd. Ni fydd Portmeirion Cyf / Siopau Portmeirion Cyf yn cymryd cyfrifoldeb am adweithiau niweidiol yn sgil prydau a gafwyd yma. Defnyddir yr alergenau canlynol yn ein cegin: llaeth, glwten, wyau, cnau, cnau daear, molysgiaid, crameniadau, pysgod, bysedd y blaidd, sylffitau, mwstard, sesami, soia, seleri.