Rhagfyr 1af, 2ail a 3ydd 2023
"Digwyddiad i’r teulu oll sy’n dathlu bwydydd a chrefftau lleol o bob lliw a llun"
Mae ein digwyddiad Nadolig ym Mhortmeirion yn gyfle i arddangos y bwyd lleol gorau, diodydd, anrhegion ac adloniant.
Mae’r ŵyl yn cynnwys stondinau crefftwyr sy’n arddangos y cynnyrch Cymreig gorau. Yn ogystal â chynnyrch a chrefftau lleol, mae gennym raglen lawn o adloniant at ddant pawb.
Cynhelir y digwyddiad ledled y pentref ar ddydd Gwener y 1af, dydd Sadwrn yr 2il a dydd Sul y 3ydd o Ragfyr 2023
Ar gyfer ymholiadau stondinau, bydd ffurflenni cais a manylion ar gael ar y dudalen hon tua chanol i ddiwedd Chwefror 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser cysylltwch ag Ellie Jones drwy e-bost - ellie.jones@portmeirion.cymru
Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau yn fuan, dilynwch ni ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol - Facebook @portmeirion neu Instagram @visit_portmeirion am ddiweddariadau