AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Pentref Portmeirion

Pentref Portmeirion

Roedd Clough Williams-Ellis wedi dychmygu creu pentref glan môr delfrydol ymhell cyn iddo gael hyd i'r safle perffaith.

Mae'r pentref wedi ei leoli ar penrhyn preifat uwchlaw'r Traeth Bach lle mae'r tirlun nodweddiadol o fôr y canoldir yn cyfuno gydag ysbrydoliaeth Gymreig i greu pentref lliwgar ac unigryw Portmeirion. Codwyd y pentref gan Clough Williams-Ellis ac erbyn heddiw mae'n un o brif atyniadau ymwelwyr Cymru.

Mae'r pentref yn adnabyddus fel y lleoliad ar gyfer cyfres deledu y Prisoner yn y 1960au. Mae'n cynnwys clwstwr o adeiladau lliwgar o gwmpas y sgwâr canol mewn lleoliad trawiadol gyda choedwig, traethau, dau westai, bythynnod hanesyddol, siopau difyr, sba a bwytai arobryn.

Roedd Clough Williams-Ellis wedi dychmygu creu pentref glan môr delfrydol ymhell cyn iddo gael hyd i'r safle perffaith o fewn pum milltir i'w gartref ym Mhlas Brondanw. Gwelir Portmeirion gan rai fel un o arbrofion pensaerniol mwyaf llwyddiannus yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. 

Technegau cydnaws â'r amgylchfyd a arddelai Clough Williams-Ellis i wireddu'i weledigaeth o godi pentref delfrydol ar lan y môr. Cafodd rhai o'r adeiladau eu symud yma o lefydd eraill lle roeddynt dan fygythiad o gael eu dinistrio. 

Codwyd y pentref dros ddau gyfnod, y naill o 1925 i 1939 a'r llall o 1954 i 1976. Erbyn hynny roedd Clough Williams-Ellis yn ei nawdegau. Ef a gynlluniodd y rhan fwyaf o'r adeiladau ond cafodd rhai o'r adeiladau eu symud yma o lefydd eraill lle roeddynt dan fygythiad o gael eu dinistrio.

Dysgwch fwy am hanes diddorol pentref Portmeirion yn ein Canolfan Groeso ac wrth wrando ar y sioe glyweled. Mae taith dywys i'w chael am ddim i'ch arwain o gwmpas y pentref am 20 munud ar ôl ichi gyrraedd (Pasg tan ddiwedd Hydref). Ni chaniateir anifeiliad anwes (heblaw cwn tywys). 

** Oherwydd rheoliadau pellhau cymdeithasol, Covid-19 mae ein canolfan Groeso, teithiau tywys, trên y gwyllt a sioe glyweled ar gau hyd y gellir rhagweld. **



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more