Dihangfa wych
MAE'R PENTREF AR GAU AR HYN O BRYD OHERWYDD CYFYNGIADAU CORONAFIRWS
Bydd pentref Portmeirion ar gau tan 1af Ebrill 2021 os caiff y cyfyngiadau cyfredol eu codi mewn pryd.
Mae Portmeirion yn cynnig dewis helaeth o lety gan gynnwys gwestai pedair seren Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth, llofftydd a switiau yn y pentref a nifer o fythynnod hunan-arlwy.
Mae Gwesty Portmeirion yn adeilad trawiadol gyda golygfeydd dros y Traeth Bach. Mae ynddo 14 o lofftydd, ystafelloedd cyhoeddus, bar a bwyty moethus.
Diwyg Cyfoes mewn Castell Gothig. Mae gan y Castell 11 o lofftydd cyfoes, dwy ystafell fwyta, bar a stafell bwyllgor fawr.
Mae 32 o lofftydd a switiau yn y pentref a'r rheini gydag holl adnoddau llofftydd y gwesty ond wedi eu lleoli yng nghanol y pentref.
Mae gan Portmeirion 12 o fythynnod hunan-arlwy o wahanol feintiau. Caiff ein gwesteion fynediad am ddim i bentref Portmeirion a defnyddio'r pwll nofio awyr agored.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.