Prif Adeilad Gwesty Portmeirion
Gwesty moethus yw Gwesty Portmeirion gyda golygfeydd dros y Traeth Bach a bryniau Meirionnydd. Mae 14 o lofftydd yn y gwesty a mynediad lifft i rai ohonynt; mae yno hefyd fwyty gosgeiddig, bar, lolfa a theras. Agorodd Clough Williams-Ellis y Gwesty ar gyfer Pasg, 1926 a dyma ers hynny ganolbwynt a ffocws y pentref a gododd o’i gylch. Cadwodd cryn dipyn o’r diwyg mewnol Fictoraidd gan gynnwys lle tân o’r Eidal, Ystafell y Drychau, hen gerfiadau pren o Arddangosfa’r Palas Grisial, 1851 a’r grisiau derw hynafol. Cafodd bar a bwyty’r gwesty eu hail-gynllunio gan Syr Terrence Conran yn 2005 er mwyn ail-greu awyrgylch y 1930au gydag arddull ‘Art Deco’.
I gadw llety, archebwch trwy’r wefan hon i fanteisio ar y prisiau gorau sydd ar gael. Mae pwll nofio awyr agored gerllaw'r gwesty ar lawnt y traeth, ar agor o 10 y bore tan 5 y pnawn bob diwrnod tan y 28ain o Fedi.
Dwbl Gwesty
Lleolir llofftydd dwbl ym mhrif adeilad y gwesty.
Mae mynediad lifft i'r llawr cyntaf yn unig. Mae grisiau i'r ail lawr.
Ym mhob llofft ceir ystafell ymolchi, teledu, wi-fi, adnoddau te a choffi. Mae mynediad am ddim i'r pentref i westeion a mynediad i'r pwll nofio (Ebrill - Medi). Gellir trefnu cludiant o'r gorsafoedd trên a bws lleol trwy drefniant ymlaen llaw. Mae man parcio ar gael i bob llofft.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.
Pâr neu Ddwbl Gwesty
Lleolir llofftydd dau wely ym mhrif adeilad y gwesty.
Mae mynediad lifft i'r llawr cyntaf yn unig. Mae grisiau i'r ail lawr.
Ym mhob llofft ceir ystafell ymolchi, teledu, wi-fi, adnoddau te a choffi. Mae mynediad am ddim i'r pentref i westeion a mynediad i'r pwll nofio (Ebrill - Medi). Gellir trefnu cludiant o'r gorsafoedd trên a bws lleol trwy drefniant ymlaen llaw. Mae man parcio ar gael i bob llofft.
Gwarantir y pris gorau am lety trwy'r wefan hon.
Swît y Paun
Lleolir Swît y Paun ar lawr cyntaf prif adeilad y gwesty gyda mynediad lifft o'r llawr gwaelod. Mae'n cynnwys llofft gyda gwely dwbl pedwar postyn, baddondy, ystafell eistedd a ffenestri tua'r traeth.