Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ymweld â Phortmeirion
MAE'R PENTREF AR AGOR O'R 2AIL RHAGFYR 2020
Ydych chi am ymweld â Phentref Portmeirion? Dyma’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch cyn ymweld. Os na chewch chi’r wybodaeth rydych yn ei geisio, anfonwch ebost at ein Canolfan Groeso, ymholiad@portmeirion.cymru
Er mwyn cadw at reolau’r ymdrech yn erbyn COVID-19, mabwysiadwyd mesurau hanfodol i gadw ein hymwelwyr a’n staff yn ddiogel. Caewyd rhai adnoddau lle nad oedd modd cadw’r pellter cymdeithasol statudol: y Gromen, Sioe Glyweled, Trên y Gwyllt, y Ganolfan Groeso, Pot Jam (aed â’r stoc i Siop Rhif 6), Siop y Ddraig Aur (stoc yn Siop y Llong) a’r Caffi Glas.
Mae Portmeirion yn rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles ein gwesteion a’n gweithwyr ac yn dilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn ogystal â chyngor Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
I gael mwy o fanylion am ein mesurau i'ch diogelu rhag Covid-19 dilynwch y ddolen hon neu ddewis y botwm uchod.
Mae yma ddigon o le parcio am ddim gan gynnwys maes parcio pwrpasol i'r anabl ger y fynedfa.
Nid ydym yn gwerthu tocynnau ar-lein ar hyn o bryd gan nad oes diffyg lle yn y pentref gyda 70 erw o erddi a choed o'i gwmpas a dim angen i neb archebu tocynnau ymlaen llaw.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu. Cadwch yn ddigoel.