Brechdanau, pasteiod, byrbrydiau a chiniawau ysgafn.
Mae'r caffi hwn ger y brif fynedfa yn cynnig amrywiaeth o gacennau, pasteiod sawrus, bapiau gan gynnwys rhai cig rhost poeth, rholiau selsig a chacennau. Galwch heibio am hufen iâ go iawn, coffi espresso, latte neu ddewis o de. Mae dewis o gwrw potel ar gael hefyd a gwinoedd. Seddi ar gael tu mewn a thu allan.
Cydnabyddwn ddifrifoldeb alergeddau bwyd a gofynnwn i chi ddweud ymlaen llaw am unrhyw alergeddau a allai fod gennych a hysbysu’r staff ar y diwrnod. Cymerwn ofal mawr i leihau’r risg o groeshalogi ond nid cegin ddi-alergedd yw hon ac rydym yn trin cynhwysion alergaidd. Ni fydd Portmeirion Cyf / Siopau Portmeirion Cyf yn cymryd cyfrifoldeb am adweithiau niweidiol yn sgil prydau a gafwyd yma. Defnyddir yr alergenau canlynol yn ein cegin: llaeth, glwten, wyau, cnau, cnau daear, molysgiaid, crameniadau, pysgod, bysedd y blaidd, sylffitau, mwstard, sesami, soia, seleri.