AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type

PENDERYN - Icon 14


"The Village"


I ddathlu 100 mlynedd o Portmeirion, rydym wedi ymuno â Penderyn i nodi'r achlysur gyda'n rhifyn 'THE VILLAGE' ein hunain; Rhif 14 yn eu casgliad 'Eiconau Cymru'.

Mewn potel wen matte, wedi'i boglynnu'n gain, mae'r wisgi brag sengl Cymreig hwn â gorffeniad casgen amarone wedi'i gyflwyno'n hyfryd mewn blwch decoupage cymhleth.

Mae'r poteli rhifyn cyfyngedig hyn ar gael nawr i nodi ein pen-blwydd yn 100 oed o'n siop ar-lein ac yn ein siopau.

 

Mae Distyllfa Penderyn wrthi’n rhyddhau "The Village," rhifyn 14 o'i chyfres Eiconau Cymru, i ddathlu canmlwyddiant pentref Portmeirion (1926-2026). Mae'r wisgi cyfyngedig ac arbennig hwn yn talu teyrnged i bentref eiconig, lliwgar a chreadigol Portmeirion,  gyda photeli ar gael o Fawrth 4ydd, 2026 yn Siopau pentref Portmeirion,  ac yna siopau distyllfa Penderyn.

 

Manylion allweddol:

 

Eicon Cymru #14: Wedi'i greu'n benodol i nodi canmlwyddiant Pentref Portmeirion.

Dyddiad Rhyddhau: Ar gael ar-lein o Fawrth 4ydd 2026, gydag argaeledd yn siopau distyllfa Penderyn a Siopau Portmeirion.

Dathlu Crefft: Mae'n dathlu pensaernïaeth unigryw Portmeirion a hynny’n cyd-fynd â blwyddyn garreg filltir ar gyfer wisgi Cymru.

 

Mae'r datganiad arbennig hwn yn rhan o gyfres a gynlluniwyd i anrhydeddu prif gerrig milltir Cymru ac eiconau diwylliannol.

Penderyn The Village Bottle and Packaging Artwork

 

Icon 14

Video Thumbnail

 

 

Nodyn Blasu

 

Aroglau:  Aroglau ffrwythau aeddfed yn cydblethu ag aroglau derw a sbeis gydag arlliw o fanila a choco yn arwain at sawr cynnil mêl a derw crasu.

Blas:  Mae'r blas yn ymagor yn foethus felfedaidd a chydnerth gan ddatgelu blasau aeron cochion, eirin aeddfed, sbeis mwyn a melyster mêl gydag arlliw o flagur.

Diweddglo:  Erys ôl-flas hir ac amheuthun gyda ffrwythau candi, derw sbeis, ac arlliw cynnil o danin grawnwin - adlais gosgeiddig o’r cyfnos dros y gwinllannoedd.

 

Archebwch eich potel...

 

Mae'r poteli rhifyn cyfyngedig hyn ar gael ar-lein drwy defnyddio'r ddolen isod, ac yn siopau'r pentref.

 

Gwnewch y fwyaf o ymweliad i fwyty Gwesty Portmeirion neu Chastell Deudraeth, lle bydd y wisgi ar gael dros y bar.
 

Portmeirion Ar-lein

Portmeirion Ar-lein



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more