Mae llawer i'w weld a'i wneud ym mhentref Portmeirion
Mae digon o bethau i'ch difyrru ym Mhortmeirion. Ymwelwch â'r Pentref, gyda'i amrywiaeth o siopau, caffis, adeiladau lliwgar, piazza hardd, arddangosfeydd ac arddangosfeydd clyweledol. Nesaf, archwiliwch y 70 erw o goetiroedd egsotig gyda 19 milltir o lwybrau sy'n torri trwy goedwigoedd, mannau cyfrinachol a gorchuddion arfordirol.
Y Gwyllt yw enw'r goedwig is-drofannol sy'n amgylchynu pentref Portmeirion. Ceir yma rhai o'r coed hynotaf a mwyaf prin yng Nghymru. Darganfyddwch yr Ardd Siapaneaidd a'r gedrwydden Siapaneaidd ysblennydd, y deml aur a'r llyn llawn lilis. Chwiliwch am Fynwent y cŵn, y Llwyn Dyrys, Gardd yr Ysbrydion a'r Ceunant Clud.
Anturiwch ar hyd draethau tywodlyd gwynion Aber Iâ i ddarganfod ogofâu cudd a gweld adar y traethau a'r blodau glan môr diddorol. Mae llwyni o Euonymus Europaeus mewn un lle a chrwynllys y tywod yn blodeuo mewn llefydd eraill. Dilynwch lwybr yr arfordir i ben draw'r penrhyn i weld grug brodorol a llwyni bytholwyrdd Ulex Gallii, sy'n perthyn i'r un teulu a phys gerddi.
Ni fyddai unrhyw ymweliad â Phortmeirion yn gyflawn heb ichi weld y cwch cerrig o'r enw yr Amis Reunis (cyfeillion a adunwyd). Byddai'r Amis Reunis gwreiddiol wrth angor ar y cei ond fe'i dryllwyd mewn storm. Adeiladodd Clough Williams-Ellis gopi o'r cwch gan ddefnyddio'r hwylbrennau a'r cabanau ar gragen o gerrig. Lle da i blant chwarae môr-ladron.