Coginio clasurol mewn lleoliad trawiadol
Mae gan y Castell fyrddau i ginio ar y teras pan fo'r tywydd yn braf a byrddau eraill ar gyfer diodydd ar y lawnt. Ar hyn o bryd dim ond i westeion preswyl y mae Castell Deudraeth yn gweini diodydd yn y bar, ond mae croeso i westeion dibreswyl ddefnyddio byrdda'r ardd ar gyfer diodydd.
Mae Castell Deudraeth yn cynnig cinio dau gwrs o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gweler enghreifftiau isod. Bydd cinio dau gwrs wedi ei archebu ymlaen llaw yn yn cynnwys tocyn mynediad am ddim i'r pentref ar ôl cinio.
Os ydych wedi archebu cinio yn y Castell ac yn dymuno ymweld â'r pentref cyn cinio, galwch hebio Derbynfa'r Castell ar eich ffordd i mewn i dalu blaendal i'w ad-dalu'n llawn pan ddychwelwch i gael cinio. Gallwch wedyn ymuno gyda'r ymwelwyr dydd i fynd drwy'r tollborth.
Mae Castell Deudraeth yn cynnig cinio Sul tri chwrs rhwng hanner dydd a 2.30yp am £30 y pen. Gweler copi o'r fwydlen isod. Bydd cinio Sul wedi'i archebu ymlaen llaw yn cynnwys tocyn mynediad i bentref Portmeirion ar ôl cinio.
Os ydych wedi archebu cinio yn y Castell ac yn dymuno ymweld â'r pentref cyn cinio, galwch hebio Derbynfa'r Castell ar eich ffordd i mewn i dalu blaendal i'w ad-dalu'n llawn pan ddychwelwch i gael cinio. Gallwch wedyn ymuno gyda'r ymwelwyr dydd i fynd drwy'r tollborth.
Gyda'r nos, bydd Castell Deudraeth yn cynnig bwydlen a la carte rhwng 6yh a 9.30yh. Mae gofyn cadw bwrdd ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
I gadw bwrdd yn y Castell a chael MYNEDIAD AM DDIM i bentref Portmeirion, ffoniwch Castell Deudraeth 01766 772400 neu e-bostiwch eich ymholiad i castell@portmeirion.wales