Susan Williams-Ellis oedd sylfaenydd a chynllunydd crochenwaith Portmeirion.
"Roedd cynlluniau Susan Williams-Ellis ym mlaen y gâd o ran steil cyfoes. "
Susan Williams-Ellis, merch hynnaf Clough Williams-Ellis, oedd sylfaenydd crochenwaith Portmeirion ym 1960, gyda'i gwr Euan Cooper-Willis.
Roedd cynlluniau Susan Williams-Ellis ym mlaen y gâd o ran steil cyfoes ac ym 1972 daeth ei chynllun Botanic Garden yn llwyddiant bydeang. Mae'r llestri yma ar gael i'w prynu ar Portmeirion Online.
Un rhan yn unig o fywyd Susan Williams-Ellis oedd llwyddiant crochenwaith Portmeirion. Roedd hi hefyd yn arlunydd ac yn awdur. Byddai’n cael llawer o ysbrydoliaeth o'r byd o dan donnau’r môr. Astudiodd yn Ysgol Gelf Chelsea dan Henry Moore a Graham Sutherland. Cafodd ei lluniau eu harddangos yn y Festival of Britain ac fel ddodrefnodd nifer o ystafelloedd ym mhentref Portmeirion gyda’i thecstiliau a’i chynhyrchion eraill.
Gwerthi'r y llestri ledled y byd ond yma ym mhentref Portmeirion mae'i gartref ysbrydol.