Cynllunio eich ymweliad â Phortmeirion
Mae Portmeirion ar agor i ymwelwyr dydd bob diwrnod o’r flwyddyn ac eithrio Dydd Nadolig.
Oriau agor prif dymor: 09:30 – 17.30
Mae’r siopau'n cau am 17.30yh.
Oriau'r bwytai a'r caffis ar y safe 10.00 - 17.00
Mae Castell Deudraeth ar agor am brydau bwyd gyda'r nos o 18.00 tan 21.30.
Rhaid archebu bwrdd ymlaen llaw drwy ffonio 01766 772400
Mae gan Portmeirion brisiau mynediad ar gyfer oedolion, consesiynau a phlant 5–15 oed.
Nid yw plant o dan 5 oed yn talu mynediad.
Rydym yn cynnig Cerdyn Aelodaeth Blynyddol sydd ar gael yn y Ganolfan Groeso.
Rydym yn cynnig MYNEDIAD AM DDIM i Bentref Portmeirion gyda chinio dau gwrs ym mwyty Castell Deudraeth o 12:00 y prynhawn ymlaen gyda Te Prynhawn o 11:30 y bore ymlaen neu gyda Chinio Sul yng Ngwesty Portmeirion.Rhaid archebu ymlaen llaw. Dilys y diwrnod hwnnw'n unig.
Mynediad i'r pentref ond ar gael ar ddiwrnod cyntaf eich archeb. Wrth i gyrraedd, gofynnwn yn garedig ichi giwio yn arferol wrth ichi gyrraedd y pentref.
Dim tal mynediad i'r pentref ar gyfer gwesteion y Gwesty, Castell Deudraeth a bythynod Hunan Ddarpar a'r Maes Cartrefi Modur.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a'r Ganolfan Groeso. Telerau ac Amodau'n berthnasol.
Saif Portmeirion ar ei benrhyn preifat ei hun ar arfordir Eryri.
Cod post LL48 6ER.
Ceir arwyddion o’r A487 ym Minffordd hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, Gwynedd.
Ni chaniateir cŵn ar y safle.
Mae pobl yn holi’n aml am y rheswm dros bolisi dim cŵn Portmeirion a Chastell Deudraeth. Un o’r prif resymau dros y rheol yw’r effaith y mae anifeiliaid anwes (cŵn yn enwedig) yn ei gael ar amgylcheddau naturiol a ddefnyddir fel cynefin bywyd gwyllt a hefyd gan bobl ar gyfer hamddena. Rheolir ardaloedd naturiol Portmeirion mewn ffordd sy’n gwarchod cynefinoedd rhywogaethau bywyd gwyllt. Gall cŵn, yn naturiol, beri difrod i gynefinoedd bregus, yn ogystal ag aflonyddu ar neu ladd bywyd gwyllt. Gweithredir y polisi dim cŵn hefyd i warchod y bobl sy’n dod i gael picnic, mynd am dro, nofio, neu ymlacio ym Mhortmeirion.
Roedd gennym reol cadw cŵn ar dennyn yn y gorffennol, ond profodd yn aneffeithiol gan fod llawer o bobl yn anwybyddu’r polisi. Gwelsom hefyd nad oedd rhai perchnogion yn cymryd cyfrifoldeb dros godi baw eu hanifeiliaid anwes. Roedd yn aneffeithlon i ni ddefnyddio amser cyfyngedig ein staff i batrolio’r safle i sicrhau bod cŵn dan reolaeth a chysylltu â’r perchnogion nad oeddent yn codi baw eu hanifeiliaid i sicrhau amgylchedd diogel i’n hymwelwyr oll.
Ac eithrio cŵn gwasanaeth arbennig (e.e. cŵn tywys), bydd Portmeirion yn parhau â’i bolisi o wahardd anifeiliaid anwes o’r pentref a gweddill y safle er mwyn helpu i sicrhau profiad o safon i’w ymwelwyr a helpu i warchod adnoddau naturiol ym Mhortmeirion.
Mae polisi dim cŵn y cwmni yn cynnwys y pentref, y Gwyllt, tir amaethyddol, Castell Deudraeth, bythynnod a gerddi’r ystâd. Nid yw’r polisi yn effeithio ar unrhyw hawliau tramwy statudol, llwybrau ceffylau na mynediad i’r mannau hynny.
Yn y pentref, mae llawer o lethrau a grisiau, felly nid yw’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â chyfyngiadau ar eu symudedd.
Mae angen defnyddio grisiau i gyrraedd rhai o’r ystafelloedd a’r bythynnod.
Mae gennym ystafelloedd penodol sy’n addas ar gyfer pobl anabl. Mae lifft yn y Gwesty ac yng Nghastell Deudraeth.
Nid oes unrhyw risiau ar lawr gwaelod Castell Deudraeth.
Mae gennym gadeiriau olwynion ar gael i’w benthyg a llefydd parcio bathodyn glas dynodedig.
Ceir manylion llawn yn ein Canllaw Hygyrchedd.
Mae gennym ddigon o le parcio ger mynedfa’r Pentref.
Nid ydym yn codi tâl am barcio.
Mae nifer o lefydd parcio anabl yn agos i’r fynedfa.
Mae lle parcio dynodedig ar gyfer pob ystafell yng Ngwesty Portmeirion, Castell Deudraeth a bythynnod y Pentref, a’r rheiny mor agos â phosibl i’r llety.
Mae Portmeirion dan berchnogaeth elusen gofrestredig o’r enw Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis Foundation.
Golyga hyn fod dyfodol Portmeirion yn ddiogel, ni ellir ei brynu na’i werthu, mae statws adeilad rhestredig ar bob adeilad yma, ac mae’r tir yn Ardal Gadwraeth ddynodedig.
Yr Elusen
Ardal yr Elusen
DIBENION ELUSENNOL (GWEITHRED YMDDIRIEDOLAETH 20FED O FAI 1985)
Mae gan Bortmeirion 58 o ystafelloedd yn y Gwesty (14 yng Ngwesty Portmeirion ar lan yr aber, 33 o Ystafelloedd a Switiau yn y Pentref ac 11 yng Nghastell Deudraeth).
Mae yno hefyd 13 o fythynnod hunan-arlwyo ym mhentref Portmeirion ac o'i amgylch.
Adeiladwyd Portmeirion i ddangos bod modd datblygu safle hardd heb ei ddifethaf ac y gellir, gyda moesau pensaernïol da a digon o sgil a gofal, harddu mwy fyth ar yr amgylchedd naturiol.
Gwesty a chyrchfan ymwelwyr boblogaidd ar arfordir Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd yw Portmeirion.
Portmeirion Cyf – Nodau ac Amcanion:
Adeiladwyd Portmeirion er mwyn dangos sut y gellir ddatblygu ar leoliad naturiol a hardd, heb ei ddifetha drwy sgil a gofal ddigonol. Yn ogystal, sut y mae modd ehangu ar weledigaeth bensaernïol a gwella'r amgylchedd naturiol.
Y mae pentref Portmeirion yn gyrchafan gwesty ac atyniad poblogaidd ar arfordir Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd, Gogledd Cymru.
Mae gan westeion Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth fynediad am ddim i'r Pentref yn ystod eu harosiad.
Ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, os yr ydych yn cael cinio tri chwrs yng Nghastell Deudraeth fe fydd hynny'n rhoi tocyn mynediad am ddim ichi i'w ddefnyddio ar ôl eich cinio.
Os ydych yn archebu cinio dydd Sul o flaen llaw neu De Prynhawn yng Ngwesty Portmeirion, mae hyn hefyd yn cynnwys mynediad am ddim i'r Pentref. O 11:30yb ymlaen ar gyfer archebion Cinio Sul, ac o 12yp ar gyfer archebion Te Prynhawn.
Rydym yn cynnig tocyn Aelodaeth Flynyddol ar gyfer oedolion. plant a theuluoedd sydd yn caniatau mynediad ddi-derfyn drwy gydol y flwyddyn.
Telerau ac Amodau'n berthnasol.