AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
TOCYNNAU DYDD

TOCYNNAU DYDD

Ymweliadau Dyddiol

*Sylwch mai dim ond cŵn tywys a chŵn cymorth meddygol yr ydym yn eu caniatáu i mewn i Bortmeirion. Gofynnwn yn garedig eu bod yn hawdd i'n staff eu hadnabod*

 

Mae tocynnau ar gael ymlaen llaw ar-lein neu yn y toll borth ar y diwrnod.

Os gwelwch yn dda, prynwch eich tocynnau o flaen llaw ar lein - yn enwedig yn ystod ein tymhorau prysur. Mae hyn er mwyn helpu'r llif a phrysurdeb y maes parcio.

Mae eich tocyn dyddiol ar-lein yn ddilys ar gyfer y diwrnod yr ydych yn ei ddewis yn unig.

Sylwer nad ydym yn cynnig ad-daliad am docynnau sydd wedi'u canslo neu heb eu defnyddio.

Dewisiwch eich amser cyrraedd - 09:30 - 11:30 // 11:30- 14:00 // 14:00 - 17:00. Mae drysau Portmeirion yn cau am 18:30 yn ystod ein prif dymor ac yn cau 17:30 allan o'r tymor.

Noder y bydd modd ichi aros yn y pentref cyn hired ac y dymunwch, ond gofynnir yn garedig pe bai modd i chi adael i ni wybod eich amser cyrraedd os gwelwch yn dda.

Unwaith yr ydych wedi prynu eich tocyn ar lein, fe gewch rif cyfeirnod - gwnewch yn siwr eich bod yn derbyn y rhif ac yn ei nodi, gan mai hwn yw eich tocyn mynediad. Efallai y byddai'n syniad ichi hefyd wirio eich ebost yn llawn - gan gynnwys eich ffeiliau 'sbam'.

 

Ar ôl cyrraedd y toll borth Portmeirion, dangoswch eich cod bar neu rhowch eich rhif cyfeirnod i'r staff. Yna bydd hwn yn cael ei gyfnewid am eich tocynnau.

 

Sylwch nad yw anifeiliaid anwes yn cael eu caniatáu o fewn tiroedd Portmeirion, mae hyn yn cynnwys Castell Deudraeth. 

Cŵn cymorth | caniateir cŵn tywys, gofynnwn yn garedig iddynt wisgo cot/tennyn neu goler sy'n eu hadnabod fel ci cymorth.

Am rhagor o wybodaeth, gwelwch ein Polisi Cŵn.

 

Prisiau

Mae ein prisiau prif tymor o 31 Mawrth 2025 tan 2 Tachwedd 2025.

Oedolion £20.00

Gostyngiad (Pobl Hŷn 60+/Myfyrwyr) £17.50

Plant (5-15 oed) £13.00

Plant (dan 5 oed) Am ddim.

 

Tocynnau teulu -

 

Mae'r tocynnau hyn ar gyfer oedolion a phlant 5-15 oed

1 Oedolyn a 2 Blentyn - £37.00

1 Oedolyn a 3 Phlentyn - £47.00

2 Oedolyn ac 1 Plentyn - £45.00

2 Oedolyn a 2 Blentyn - £54.00

2 Oedolyn a 3 Phlentyn - £63.00

2 Oedolyn a 4 Phlentyn - £71.00

2 Oedolyn a 5 Phlentyn - £79.00

 

 

Anabl | Mynediad i ofalwyr.

 

Os ydych chi'n derbyn Bathodyn Glas, PIP/DLA, (neu ddogfen adnabod gyfwerth ddilys fel tocyn mynediad, cerdyn rheilffordd i'r anabl), rydym yn cynnig tocyn disgownt ar gyfer eich mynediad.

 

Dewch â phrawf o'ch hawl gyda chi. Derbynnir llun clir o flaen a chefn eich bathodyn glas dilys (dangoswch y bathodyn yn y car) neu gopi o'ch llythyr PIP neu DLA dilys. (Sylwch na fyddwn yn derbyn datganiadau banc ac ati fel prawf)

Sylwch, heb brawf dilys - codir y pris llawn wrth y giât.

 

Mae tocyn disgownt ar gael os oes angen gofalwr arnoch i'ch cynorthwyo, dim ond i un person y mae'r tocyn hwn yn ddilys ynghyd â pherchennog bathodyn glas, PIP neu lythyr DLA ac ati.

 

Oedolyn Anabl (gyda phrawf dilys) £10.00

Plentyn Anabl (gyda phrawf dilys) £6.00

Gofalwr yn cyd-fynd â pherson anabl £15.00

 

Mynediad Myfyrwyr Disgownt.

 

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n mynychu coleg neu brifysgol yn llawn amser neu'n rhan amser, dewch â'ch cerdyn adnabod myfyriwr gyda chi, bydd hyn yn rhoi'r hawl i chi gael y tocyn disgownt.

Sylwch fod yn rhaid i'r ID fod yn ddilys.

Os nad oes ID ar gael, codir y pris llawn.

 

Gostyngiad (Pobl Hŷn 60+/Myfyrwyr) £17.50

 

Ffair Nadolig Portmeirion.

 

Cynhelir ein ffair Nadolig ar benwythnos cyntaf mis Rhagfyr - 5ed, 6ed a 7fed o Ragfyr 2025.

Nid yw tocynnau ar gael ymlaen llaw; byddant ar gael ar y diwrnod yn unig yn un o'n 3 toll borth. Rydym yn derbyn arian parod neu gerdyn.

Yn ystod y dyddiadau canlynol - 17eg Tachwedd i 12fed Rhagfyr 2025, efallai y bydd rhai golygfeydd yn cael eu heffeithio oherwydd y ffair fwyd a chrefft a drefnir.

 

Dyddiadau Nid yw Pentref Portmeirion ar agor.

 

Bydd pentref Portmeirion ar gau i ymwelwyr dydd ar y 25ain a'r 26ain o Ragfyr 2025.

***

Bydd Portmeirion ar gau o 17.30pm ar y 5ed o Ionawr tan 09.30am ar y 26ain o Ionawr 2026, i bob ymwelydd dydd.

 

Aelodaeth flynyddol

 

Os ydych chi'n bwriadu ymweld sawl gwaith, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn prynu un o'n haelodaethau, mae gennym ni 4 i ddewis ohonynt -

*****

 

Aelodaeth leol

 

(Rhaid i'r person fynychu ei hun, rhaid iddo fod yn byw'n llawn amser yn un o'r ardaloedd cod post canlynol - LL48 6HF/6HP/6HW/6HS/6HN/6HG/6EE/6HL/6ED/6EL/6EF/6EG/6HU/6HY/6EN/6EP/6EW/6HD/6HR.)

 

Rhaid cyflwyno'r mathau canlynol o brawf wrth brynu ac adnewyddu - Dogfen ffotograffig - Trwydded yrru/pasbort/cerdyn teithio a llythyr cyfredol gan gwmni cyfleustodau/treth gyngor/DWP neu gyfwerth.

 

Rhaid i'r ddau arddangos enw llawn y person a dylai o leiaf un arddangos y cyfeiriad cymwys.

 

Sylwch na fydd aelodaeth leol yn cael ei chyhoeddi heb y ddogfennaeth hon.

 

****

 

Aelodaeth flynyddol - aelodaeth 12 mis ar gyfer 1 person a enwir.

 

****

 

Aelodaeth Aur - aelodaeth 12 mis ar gyfer 1 person a enwir ac unrhyw 1 gwestai.

 

****

 

Aelodaeth deuluol - aelodaeth 12 mis ar gyfer 1 person a enwir ac unrhyw

 

 

 

 

 

 



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more