AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
CYRRAEDD YMA

CYRRAEDD YMA

Cyfarwyddiadau

Sut i Gyrraedd Bortmeirion

Dewiswch eich dull teithio i gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd Portmeirion:

YN Y CAR

AR DROED

MEWN TACSI

AR Y BWS

AR Y TRÊN

HEDFAN YMA

HOFRENNYDD PREIFAT

 

Cyfeiriad

Portmeirion Ltd.
Minffordd, Penrhyndeudraeth
Gwynedd, LL48 6ER


Rhif Ffôn

Tollgate: 01766 772311

Hotel: 01766 772440


Oriau Agor

Ar agor 9.30yb – 7.30yh bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig ac yn ystod Gŵyl Rhif 6

YN Y CAR

Defnyddiwch LL48 6ER i’n cyrraedd efo llywiwr lloeren

 

 

 

AR DROED

O Finffordd, gallwch ddilyn y llwybr troed wrth ymyl y ffordd

Wrth gyrraedd Castell Deudraeth dilynwch y llwybr troed rownd ymyl 'Cae Mawr' islaw’r Castell. Bydd hwn yn eich arwain heibio’r prif faes parcio ac at y tollborth. Ym Mhortmeirion, mae dros 20 milltir o lwybrau’r goedwig, a milltiroedd o arfordir. Mae’n syniad da ichi ddod ag esgidiau gwydn.

MEWN TACSI

Argymhellwn y cwmnïau tacsi lleol canlynol:

RALIO ROWND
Minffordd

07950 176 551

B & M Taxis
Penrhyndeudraeth

01766 770851

DUKES TAXI'S 
Portmadog

01766 514 799

AR Y BWS

Mae gwasanaeth bws dyddiol o Borthmadog rhwng mis Mawrth a mis Hydref

AR Y TRÊN

Amserlenni rheilffordd – gadael Euston, cyrraedd Bangor.

Mae gan Virgin Trains wasanaeth cyflym o orsaf Euston yn Llundain, sy’n aros yng Nghyffordd Llandudno neu ym Mangor, ac mae unrhyw un o’r ddwy orsaf yn gyfleus ar gyfer parhau’r daith i Bortmeirion. O Gyffordd Llandudno, gallwch gysylltu â threnau i Flaenau Ffestiniog ar lein Dyffryn Conwy. Os ydych chi’n aros ym Mhortmeirion, ffoniwch ni ar 01766 770000 a gallwn drefnu tacsi i’ch cwrdd ym Mlaenau Ffestiniog (mae cost am hyn).

Gallwch newid ym Mlaenau Ffestiniog ar gyfer Rheilffordd Ffestiniog, trên bach stêm sy’n teithio i Borthmadog. Mae ganddi orsaf ym Minffordd (mae’r orsaf hon 1 ½ milltir o Bortmeirion). Os ydych chi’n aros ym Mhortmeirion, ffoniwch 01766 770000 ac fe drefnwn gar i’ch cwrdd o orsaf Minffordd am ddim.

O Fangor, gallwch drefnu tacsi. Os ydych chi’n aros yng Ngwesty Portmeirion neu Gastell Deudraeth, ffoniwch ni ar 01766 770000 ac fe drefnwn i chi gael eich casglu (mae cost am hyn). Mae’r siwrne o Fangor yn cymryd 50 munud.

Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn rhedeg o Bwllheli i Fachynlleth gyda gorsaf ym Minffordd. Mae trenau yn rhedeg i ac o Fachynlleth o’r Amwythig a Birmingham. Tocynnau ar gael gan Trainline. Os ydych yn aros ym Mhortmeirion, ffoniwch 01766 770000 ac fe drefnwn gar i’ch cwrdd o orsaf Minffordd am ddim.

HEDFAN YMA

Ar gyfer ymwelwyr sy'n cyrraedd mewn awyren, mae yna nifer o feysydd awyr i ddewis.

Maes awyr rhyngwladol Manceinion sydd â’r mwyaf o awyrennau’n glanio, wedyn maes awyr rhyngwladol Birmingham a maes awyr John Lennon ger Lerpwl. Gellir llogi car o’r meysydd awyr hyn.  

HOFRENNYDD PREIFAT

Mae glanfa hofrennydd yma, CYFEIRNOD GRID SH59283764

Rhaid i chi roi rhybudd o flaen llaw os ydych chi’n bwriadu glanio drwy anfon ebost at lleoliad@portmeirion.cymru . Mae ffi lanio i’w thalu.



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more