AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Siop y Llong

Siop y Llong

Siop bwtîc yng nghanol y Pentref

Dim ond nwyddau dethol sy’n cael lle ar silffoedd y bwtîc rhestredig Gradd II hwn. Dyma’r lle delfrydol i godi anrheg i rywun arbennig neu ddewis swfenîr i gofio’ch amser yma.

Mae’r llawr mesanîn yn cynnal amrywiaeth ddeniadol o nwyddau i’r cartref gan frandiau fel Sophie Conran, Orla Kiely ac Emma Bridgewater. Mae Siop y Llong yn gartref i lestri bwrdd, ategolion i’r cartref, bagiau ac ategolion, dodrefn meddal a llieiniau i’r tŷ.

Mae gan Bortmeirion ei gyfres ei hun o bersawr ar gyfer y cartref. Mae’r canhwyllau yn llawn naws Portmeirion – mae eu haroglau pêr yn nefolaidd! Mae Siop y Llong hefyd yn gwerthu pob math o nwyddau ystafell ymolchi gan L’Occitane.

Hefyd yn Siop y Llong, mae cilfach liwgar â’i llond o deganau i’r plantos gan frandiau poblogaidd fel Jellycat Soft Toys, Peter Rabbit, Wild & Wolf a The Hungry Caterpillar.



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more