"Coleddu'r Gorffennol, Harddu'r Presennol, Adeiladu ar gyfer y Dyfodol," Syr Clough Williams-Ellis
Bydd pentref Portmeirion ar gau tan1af Ebrill 2021 os caiff y cyfyngiadau cyfredol eu codi mewn pryd.
Adeiladwyd Portmeirion gan y pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis o 1925 i 1976. Roedd yn awyddus i ddangos sut y gellid datblygu safle o harddwch naturiol heb ei ddifetha. Prynodd y safle ym 1925 a bu wrthi'n gwireddu'i weledigaeth am bentref delfrydol dros yr hanner canrif dilynnol.
Roedd Clough Williams-Ellis yn gobeithio y byddai'i waith ym Mhortmeirion yn ysbrydoliaeth i eraill.