Yn ystod y Prif Dymor
Mae detholiad o gafés ar agor yn y pentref.
Mae Caffi Neuadd y Dref, Caffi Glas, Caffi 6, Caffi'r Sgwâr a Chaffi'r Ddraig yn cynnig amrywiaeth o fwydlenni at bob chwaeth a gofyniad dietegol.
Mae Angel Ices yn gelateria arddull Eidalaidd sy'n gweini gelato cartref dilys, ynghyd â the, coffi a byrbrydau.
Mae tair siop yn y pentref: Siop Y Prisoner gyda chofroddion o'r gyfres enwog a ffilmiwyd yma yn 1966–67, Oriel Rob Piercy a Siop y Llong gyda rhoddion, teganau, nwyddau cartref, crochenwaith Portmeirion o'r safon orau ac ail ddewis, ynghyd â chyffeithiau, gwinoedd a melysion.
Mae gan Bortmeirion ddau westy: Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth.
Cynhelir digwyddiadau preifat yng Ngwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth. Gall hyn olygu eu bod ar gau i'r cyhoedd, ac ymddiheurwn os yw hyn yn achosi siom.
Sylwch, os oes archeb wedi'i gwneud ar gyfer Cinio Sul, cinio dau gwrs yng Nghastell Deudraeth neu De Prynhawn yng Ngwesty Portmeirion, nid oes angen archebu tocynnau ar-lein gan fod mynediad am ddim.
Mae gan Bortmeirion dair ar ddeg o fythynnod hunanarlwyo, sy'n cael eu gosod o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn ac hefyd o ddydd Gwener i ddydd Llun yn ystod y gaeaf. Gellir eu harchebu ar-lein neu drwy ffonio 01766 770000.