Bwthyn hunan-arlwyo yn cysgu 4
Y Dolffin yw'r diweddaraf o fythynnod hunanarlwyo Portmeirion i gael ei ailwampio. Wedi'i enwi ar ol y maml mor sydd wedi'i gerfio ar yr adeilad, ac yn eistedd uwchben sgwar y pentref, mae ceinder cynnil i'r adeilad rhestredig Gradd II hwn. Mae'r darluniau botanegol yn dod a gasgliad y teulu Williams-Ellis, ac mae ategolion gan Orla Kiely yn rhoi gwedd retro i'r cyfan.