Bwthyn hunan-arlwy yn cysgu 4
Gyda'i leoliad deniadol a'i hanes diddorol, mae'n debyg nad oes llawer o lefydd i aros yng Ngogledd Cymru a fedrai guro awyrgylch y bwthyn pysgotwr hwn o'r 18fed ganrif. Bu Patrick McGoohan yn westai yma tra'r oedd yn ffilmio Y Prisoner yn 1966/67. Un arall a fu'n llety yma oedd y llofrudd enwog o'r 19eg ganrif, yr Hwntw Mawr. Mae tu mewn y bwthyn wedi'i addurno'n chwaethus ac yn adlewyrchu lliwiau glas claear y môr.