Bwyty Gwesty Portmeirion
"Mae enw da'r bwyty hwn yn denu gwesteion o bell ac agos"
BWYTY MOETHUS
Mae bwyty Gwesty Portmeirion ar agor i westeion preswyl yn unig ar gyfer brecwast a swper. Mae croeso i westeion dibreswyl gadw bwrdd ar gyfer Cinio Sul (01766 772440 neu 770000).
Bydd Prif Gogydd y Gwesty, Mark Threadgill, yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau i greu bwydlen Gymreig gyfoes. Cynllunwyd diwyg mewnol art deco y Bwyty a'r Bar gan y cynllunydd Syr Terence Conran. Mae golygfeydd mawreddog o'r Bwyty dros y Traeth Bach ac Afon Dwyryd tuag at fynyddoedd Meirionnydd.
Ar y Sul, gweinir cinio Sul traddodiadol (nid yw bwydlen Teras y Gwesty ar gael ar y Sul). Cewch fynediad am ddim i bentref Portmeirion os archebwch fwrdd ymlaen llaw ar gyfer cinio Sul.
Gan fod cynifer yn cadw bwrdd heb droi i fyny, mae'n rhaid inni warantu pob archeb am fwrdd trwy gadw manylion cerdyn talu.
Rhaid cadw lle ar gyfer Cinio Sul trwy ffonio 01766 772440 neu 770000 neu e-bostio gwesty@portmeirion.cymru