Dwy neuadd breifat ar gyfer achlysuron mawr a bach.
Mae yn Neuadd y Dref ddwy neuadd ar gyfer achlysuron preifat sef Neuadd Ercwlff a Neuadd Tudur.
Neuadd wledda Jacobeaidd yw Neuadd Ercwlff a gludwyd yma i'w ailosod ar y safle yn y 1930au. Ei nodwedd amlycaf yw'r nenfwd plastr cywrain JacobeaiddJacobeidd sy'n dylunio anoethau Ercwlff. Mae i'r neuadd baneli derw a ffenestri myliynau gyda chwareli mân, y cwbl wedi'i achub o Neuadd Emral yn Sir y Fflint. Mae'r Neuadd hon yn ddelfrydol ar gyfer dathliadau ac achlysuron ac ynddi le i rhwng 30 a 150 o westeion.
Mae Neuadd Tudur yn ddelfrydol ar gyfer achlyhsuron preifat bach, gyda lle i hyd at 40 o westeion. Mae'r lleoliad hwn yn addas ar gyfer cyfarfodydd, cyrsiau hyfforddi, partïon, ac achlysuron arbennig. Gyda golygfa dros y pentref a'r Traeth Bach, a'r arlwyo wedi ei ddarperu o Fwyty Neuadd y Dref, mae'n lleoliad hyblyg sy'n berffaith ar gyfer achlyhsuron preifat.