AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Hanes Portmeirion

Hanes Portmeirion

Adeiladwyd Portmeirion gan y pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis o 1925 i 1976.


"Roedd Clough Williams-Ellis yn gobeithio y byddai'i waith ym Mhortmeirion yn ysbrydoliaeth i eraill. "


Adeiladwyd pentref Portmeirion gan y pensaer Cymreig Clough Williams-Ellis o 1925 i 1976. 

Gwelodd yma bopeth a ddeisyfai ar gyfer safle delfrydol ar gyfer ei arbrawf pensaerniol: clogwyni serth, nentydd a choedwigoedd uwchlaw traeth eang, tywodlyd ynghyd â chnewyllyn o hen adeiladau.

Ym 1925, cafodd y pensaer Cymreig, Clough Williams-Ellis, hyd i'r safle delfrydol ar gyfer Portmeirion. Roedd wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn chwilio am leoliad addas ar gyfer ei bentref delfrydol arfaethedig a phan glywodd fod ystâd Iâ Aber ger Penrhyndeudraeth ar werth aeth ati'n union deg i roi cynnig amdani. 

Ei fwriad oedd dangos bod modd datblygu safle hardd heb ei ddifetha a'i bod hyd yn oed yn bosibl i ychwanegu at yr harddwch naturiol gydag adeiladau oedd mewn cytgord â'r tirlun.  Roedd stad Aber Iâ yn cynnig pob dim yr oedd wedi gobeithio'i gael o ran safle i'w arbrawf pensaernïol: clogwyni serth uwchben traeth eang, coedwigoedd, nentydd a chnewyllyn o hen adeiladau.

Mae hanes Portmeirion yn cychwyn ymhell cyn 1925. Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y lle gan Gerallt Gymro yn 1188: "Bu inni groesi'r Traeth Mawr a'r Traeth Bychan, dwy fraich o'r môr, y naill yn fawr a'r llall yn fach. Codwyd castell cerrig yma'n ddiweddar gan feibion Cynan a'i alw'n Gastell Deudraeth a hwnnw wedi ei leolir yng nghwmwd Eifionydd, yn wynebu mynyddoedd y gogledd.

Sonnir am gastell Aber Iau gan Edward Lhuyd yn Parochalia II (1700). Cofnododd enw'r lle fel Aber Iau gan nodi bod "Adfeilion Castell Aber Iau eto'n sefyll ar begwn de-orllewinnol y penrhyn."

Yn 1861 ysgrifennodd Richard Richards ddisgrifiad o'r safle fel yr oedd yr adeg honno: "Nid oedd yno'r un adyn byw, dim ond haid o hwyaid estron ar lyn bychan, a dau fwnci a roddai'r argraff imi, o'r twrw a wnaent, nad oedd fawr o groeso i'm hymweliad. Yr oedd yr ardd ei hun yn un hyfryd, a'r waliau'n drwch o goed ffrwythau…… a phlasty hardd Aberia, annwyl ddarllennydd, ar lan y Traeth Bach ym Meirionnydd."

Prynodd Clough y safle yn 1925 a'r pryd hwnnw, fel yr ysgrifennodd Clough yn ei hunangofiant, roedd y lle "yn ddiffeithwch anniben wedi'i adael i fynd a'i ben iddo ers talwm gan y rhamantwyr rheini a welodd unwaith ei apêl unigryw a phosibiliadau'r penrhyn prydferth hwn ond a gollodd eu pennau a gadael i'r tirlunio mawreddog hwn eu torri nes mynd yn fethdalwyr."  Y peth cyntaf a wnaeth Clough oedd newid yr enw o Aber Iâ i 'Portmeirion' : Port i'w osod ar lan y môr a Meirion i'w angori yn Sir Feirionnydd.

Y gwaith cyntaf a wnaeth oedd addasu'r hen blasty ar lan y môr a'i droi'n westy. Yr oedd y syniad o greu pentref bach rhamantus glan y môr wedi gwreiddio’n ddwfn ym meddwl Clough flynyddoedd cyn iddo ddod o hyd i safle addas. 

Codwyd Portmeirion mewn dau gyfnod: rhwng 1925 a 1939 cafodd y safle ei 'begio' ac fe godwyd y prif adeiladau. Rhwng 1954-76 aeth ati i lenwi'r bylchau. Yr oedd arddull yr ail gyfnod yn fwy clasurol a Seorsaidd, a hynny'n gwrthgyferbynnu i raddau helaeth ag arddull Celf a Chrefft y cyfnod blaenorol.  Roes gartref hefyd i sawl adeilad dan fygythiad mewn llefydd eraill a hynny'n esgor ar y disgrifiad o'r lle fel "cartref i adeiladau distryw".

Rhyfedd yw pleserau'r pensaer, ysgrifennai yn 1924. "Bydd yn gorwedd yn effro yn y nos tra'n gwrando ar y storm ac yn meddwl am y glaw'n curo ar ei doeau, gwêl yr haul yn dychwelyd gan feddwl mai i union haul o'r fath y gwnaed saernïaeth ei gerrig i daflu cysgod." 

Ymddangosodd yr erthygl gyntaf am Bortmeirion yn The Architects Journal (Ionawr 6, 1926) ynghyd â llun o fodelau graddfa a dyluniadau arbrofol a baratowyd gan Clough i wneud argraff ar ddarpar fuddsoddwyr. Yn yr erthygl hon dywed John Rothenstein: "Ar hyd arfordir Gogledd Cymru, nepell o'i hen gartref ei hun, Plas Brondanw, mae wedi prynu'r hyn a dybia i fod yn safle delfrydol, ac mae wrthi'n cynllunio ac yn modelu ar gyfer codi pentref cyfan arno. Bydd canlyniadau ei gynllun yn sylweddol a dylai wneud llawer i chwalu'r syniad presennol, sef er y dylid cynllunio tai yn ofalus, y gall trefi godi trwy hap a damwain."

Agorwyd Gwesty Portmeirion ar gyfer y Pasg, yr 2il o Ebrill 1926. Codwyd adeilad olaf Clough, sef y tollborth , ym 1976 pan oedd yn 93 oed .



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more