AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Syr Clough Williams-Ellis

Syr Clough Williams-Ellis

Blaenoriaeth Clough gydol ei oes oedd gweddustra o ran Pensaernïaeth, Cynllunio Tirlun, gwarchod Cymru Wledig a Chadwraeth. Ym mhentref Portmeirion rhoes hanfod diriaethol ac ymarferol i'w weledigaeth.


""Credaf fod Harddwch, yr rheidrwydd rhyfedd hwnnw, chwedl Rebecca West unwaith, yn beth o bwys sylfaenol i'r ddynol ryw, ac oni bai i'r hil ddynol ddarfod a bod o'r ddaear hon, mi ddaw fwyfwy i roi gwerth arno a'i ymofyn ac o'r diwedd ei feddiannu." Syr Clough Williams-Ellis"


Bertram Clough Williams-Ellis, Kt. CBE. MC. LLD. FRIBA. FRTPI. FILA ayb. (1883-1978). Ganwyd yn Gayton, Swydd Northampton yr 28ain Mai 1883 yn ail fab i'r Parchedig John Clough Williams-Ellis a Hilda Greaves.  Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Oundle, Coleg y Drindod, Caergrawnt, ac yn Ysgol y Sefydliad Pensaernïol yn Llundain (am dri mis, 1902-03).

Roedd Clough yn ymgyrchydd diflino dros yr amgylchedd ac yn un o sylfaenwyr y Council for the Protection of Rural England yn 1926 ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn 1928 (lle bu'n llywydd am dros ugain mlynedd).  Ymgyrchai dros gadwraeth wledig, cynllunio ar gyfer mwynderau, cynllunio diwydiannol a phensaernïaeth liwgar. "Credaf fod Harddwch, yr rheidrwydd rhyfedd hwnnw, chwedl Rebecca West unwaith, yn beth o bwys sylfaenol i'r ddynol ryw, ac oni bai i'r hil ddynol ddarfod a bod o'r ddaear hon, mi ddaw fwyfwy i roi gwerth arno a'i ymofyn ac o'r diwedd ei feddiannu."

Yr oedd yn ddadleuwr dylanwadol dros sefydlu'r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ac yn gyfrifol am ddiffinio terfynau Parc Cenedlaethol Eryri, gan eu cyflwyno i'r Brenin Siôr a'r Frenhines Elisabeth yn 1951. Cododd adeiladau i gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon ac unwaith yn Shanghai. Mae ei gyfraniad i bensaernïaeth wedi bod yn un sylweddol.

Yn 1915 priododd Amabel Strachey (1894-1984). Cyfarfu'r ddau mewn dderbyniodd Clough her gan ei thad St. Loe Strachey, golygydd-berchennog The Spectator, i gynllunio tai fforddiadwy yng nghefn gwlad.

Priodwyd Clough ac Amabel yn Eglwys St Martha ar Ffordd y Pererinion y 31ain Gorffennaf, 1915. Roedd Clough yn Is-Gapten gwirfoddol yn y Gwarchodlu Cymreig gan ymuno wedyn gyda Chorfflu'r Tanciau Brenhinol hyd at 1918 (dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo). Ganwyd dwy ferch iddynt, Susan, arlunydd chynllunydd (priododd Euan Cooper-Willis, pedwar o blant), a Charlotte, Gwyddonydd (priododd Lindsay Wallace yn 1945 a mudo i Seland Newydd, pump o blant) ac un mab Christopher (1923-1944) a laddwyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ym mrwydr Monte Cassino ac yntau'n gapten hefo'r Gwarchodlu Cymreig. 

Câi ei gyd-benseiri eu denu i Bortmeirion, yn fwyaf nodedig Frank Lloyd Wright a ddaeth yno yn 1956 yn ystod ei unig ymweliad â Chymru, gwlad ei gyndadau. Roedd Clough yn awyddus i brofi fod moesau da o ran pensaerniaeth hefyd yn dda o ran busnes. Saif Portmeirion yn dyst o'i weledigaeth a'i athrylith. 

A phentref Portmeirion wedi dathlu, gydag afiaith a rheialtwch,  ei ben-blwydd yn hanner cant oed yn 1976, mae'r lle bellach ac mewn ffordd ryfedd ond boddhaus ddigon, wedi cymryd fy lle i sefyll ar fy rhan a finnau'n encilio i gysgodion rhadlon ganol fy nawdegau." Syr Clough Williams-Ellis, 1977



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more