Yr Amis Reunis, “aduniad ffrindiau”, yw’r enw ar gwch cerrig enwog Portmeirion.
Mae mynd lawr at yr Amis Reunis, ein “Cwch Cerrig” enwog, yn rhan hanfodol o’ch ymweliad â Phortmeirion.
Bron yn syth ar ôl agor Portmeirion yn 1926, prynodd Clough hen fadlong o Borthmadog, ac fe’i hailwampiodd a’i angori ar y cei; dyna’r Amis Reunis. Defnyddiwyd y cwch fel cwch tŷ nes yr aeth yn sownd mewn lle bas ger Ynys Gifftan. Gellir gweld ei olion ar arfordir Portmeirion pan fo’r llanw allan.
Wedi i Clough fethu dod â’r cwch yn ôl i’r lan i’w drwsio, penderfynodd achub cymaint ag y gallai, a defnyddiodd rannau o’r prif hwylbren fel pileri i gynnal to fflat yr ystafell fwyta. Yn ddiweddarach penderfynodd Clough y byddai’n adeiladu cwch cerrig ar arfordir Gwesty Portmeirion yn goffâd i’r Amis Reunis gwreiddiol.
Mae Cwch Cerrig Portmeirion yn le penigamp i blant (ac oedolion!) chwarae môr-ladron.