Maes Cartrefi Modur Pentref Portmeirion
Croeso i Faes Cartrefi Modur Portmeirion. Dyma safle newydd yn y pentref a agorir Ddydd Llun, 1af o Awst 2022 tan Hydref 31ain 2022.
Mae 23 llain ar gael gyda thri maint gwahanol.
Llain bach (5m x 4m) £50
Llain ganolig (7m x 4m) - £60
Llain fawr (8m x 5m) - £70
Mae pris pob llain ar gyfer 2 berson am 1 noson.
Bydd ffi ychwanegol am bersonau ychwanegol ac adlenni.
Mae gan bob llain gyda'r canlynol:
Cyswllt trydan, cysylltiad teledu, tap dŵr.
Ar y safle, mae'r cyfleusterau canlynol ar gael:
Ystafelloedd ymolchi, cawodydd a thoiledau, band eang diwifr, tanc dŵr llwyd, elsan, cyfleusterau golchi llestri, sbwriel ac ailgylchu a mannau picnic.
Bydd mynediad i Bortmeirion am ddim (tu allan i oriau). Gellir defnyddio'r pwll nofio am ffi ychwanegol.
Manylion ar gael yn y dderbynfa wrth gofrestru. I archebu eich llain neu am fwy o ymholiadau ffoniwch (01766) 770 000 neu e-bostiwch aros@portmeirion.cymru
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i'r llecyn newydd hwn.
Llun gan A EVANS CAMPERVAN & CAMPING LTD