Lleoliad hudolus i'ch priodas
Os ydych chi'n chwilio am leoliad trawiadol a hudolus ar gyfer eich diwrnod mawr ni chewch well lle na phentref Portmeirion gyda'i adeiladau lliwgar a'i erddi hardd ar lannau'r Traeth Bach gyda choed y Gwyllt yn gefndir i'r cwbl.
Dewiswch y naill neu'r llall o dri lleoliad ar gyfer eich Seremoni Sifil:
Ystafell y Drychau - Ystafell gywrain yng Ngwesty Portmeirion gyda golygfeydd dros y Traeth Bach a lle i hyd at 14 o bobl.
Neuadd Tudur - Ystafell sy'n rhan o Neuadd y Dref, gyda phaneli derw a ffenestri uchel gyda lle ar gyfer hyd at 35 o westeion.
Neuadd Ercwlff - Neuadd Jacobeaidd unigryw gyda phaneli derw a nenfwd cywrain gyda seddau i hyd at 100 o westeion.
Gallwn drefnu derbyniad o'ch dewis o ddiodydd gyda danteithion naill ai ar lawnt y gwesty os yw'r tywydd yn ffafriol neu oddi fewn i'r Gwesty.
Mae bwyty gosgeiddig y Gwesty gyda'i olygfeydd dros y Traeth Bach yn addas ar gyfer hyd at 120 o westeion. Os dymunwch bydd ein Rheolwr Bwyty ar gael i wasanaethu fel Meistr Seremonïau.
Ym mhen draw'r bwyty mae Ystafell Fwyta breifat ar gyfer partïon o hyd at 36 o westeion.
Gyda'r nos, ar ôl y wledd, mwyhewch barti anffurfiol yn Neuadd y Dref gyda cherddoriaeth a chyfeillion.
Mae'r neuadd hanesyddol ganllath o'r gwesty yn lle ysblennydd a chyfleus i barhau gyda'r dathlu a'r dawnsio gyda'r nos.
Mae yma le ar gyfer 1456 o westeion ar gyfer bwffe neu fwyd bys a bawd dyga'ch dewis o winoedd a diodydd.
Gallwn roi cymorth ichi gyda manylion DJs lleol, disgos a bandiau - neu mae croeso ichi ddod â'ch adloniant eich hun.
Rydym yn cynnig sawl dwis ichi i sicrhau diwrnod arbennig i'ch priodas. Gallwch ddewis rhwng ein Pecynnau Priodas, neu drefnu priodas personol. Edrychwch ar ein Pecynnau Priodas am rhagor o wybodaeth.