Arbedion ar Grochenwaith Portmeirion
Mae’r siop boblogaidd ger yr hen dollborth yn gwerthu detholiad o grochenwaith Portmeirion yn rhatach na phrisiau siop cyffredin. Gyda ffefrynnau Crochenwaith Portmeirion yn cynnwys Sophie Conran, Ted Baker a’r gyfres fythwyrdd, Botanic Garden, dyma’r lle i gael bargen ar lestri poblogaidd.
Mae ein Siop Llestri Ail-safon hefyd yn gwerthu anrhegion a swfenîrs Portmeirion. Mae yno ddewis o anrhegion yn cynnwys canhwyllau, siocledi, jig-sos, a swfenîrs yn cynnwys llieiniau sychu llestri, mygiau teithio, ymbarelau a mwy.
Cafodd yr hen garejis eu hailwampio’n ddiweddar, a rhannwyd y siop yn dri rhan: nwyddau ar gynnig arbennig, ciosg hufen iâ a chaffi braf o’r enw Caffi Rhif 6.