Trysorfa o lyfrau, anrhegion, posau, lluniau a mwy...
Yn llawn llyfrau anarferol a phrintiau unigryw, mae gan Siop Lyfrau’r Ddraig aur gasgliad helaeth o lyfrau Cymraeg a theithlyfrau, yn ogystal â dewis rhagorol o gardiau post, printiau, mapiau a nofelau i blant.
Mae perlau cudd yn llechu ym mhob cornel o’r siop a boed eich bryd ar swfenîr cofiadwy i fynd adref efo chi neu’r anrheg ddelfrydol i rywun arbennig, rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r union beth yn Siop Lyfrau’r Ddraig Aur.