
DIGWYDDIAD CYFRWNG CYMRAEG YW HWN
Trwy gyfrwng y Gymraeg y cynhelir perfformiadau’r penwythnos.
THIS IS A WELSH LANGUAGE EVENT
Please note all performances will be delivered through the medium of Welsh.
Portmeirion 1967–2027
Taith yn ôl i'r 1960au
Pleser gennym yw eich gwahodd i ymuno â ni ar daith yn ôl i'r 1960au am benwythnos llawn cyffro a dirgelwch.
1967 oedd y flwyddyn y cafodd cyfres The Prisoner ei darlledu am y tro cyntaf, gan ddod â sylw byd-eang i bentref Portmeirion. Y flwyddyn honno hefyd oedd blwyddyn rhyddhau albwm enwocaf y Beatles, Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band.
60 Mlynedd • 1967–2027
Portmeirion, The Prisoner a'r Beatles
Byddai rheolwr y Beatles, Brian Epstein, yn cadw bwthyn o'r enw Y Gatws ym Mhortmeirion, lle byddai'n treulio'r hafau gan wahodd aelodau o'r band ato.
Roedd y Beatles, fel llawer o'r cyfnod, yn ddilynwyr brwd o gyfres The Prisoner ac yn adnabod Patrick McGoohan.
Caniatawyd i McGoohan ddefnyddio'r gân 'All You Need Is Love' ar gyfer y bennod Fall Out, a hynny am ddim ond £45. Dyma un o'r unig droeon iddynt ganiatáu i'w gwaith gael ei ddefnyddio gan neb arall.

Noson o ddirgelwch yn y 1960au
Ar ôl derbyniad diodydd, bydd ein gwesteion yn dod ynghyd am ginio nos pum cwrs ar fyrddau rhannu. Yn ystod y noson, bydd Bara Caws yn dod â dirgelwch llofruddiaeth y 1960au yn fyw.

Naws y 1960au
Gwisgwch ar gyfer y cyfnod
Bydd naws y 1960au i'r nos Wener ac awgrymwn i'n gwesteion wisgo dillad sy'n adlewyrchu'r cyfnod, boed hynny'n ffurfiol gyda thei ddu, neu'n lliwgar, neu gyda naws rhaglen The Prisoner.
Noson gymdeithasol o ddirgelwch
Byrddau rhannu i wyth neu ddeg o bobl fydd y drefn ar gyfer y cinio nos, er mwyn sicrhau awyrgylch cymdeithasol addas ar gyfer y dirgelwch llofruddiaeth.

Steve Eaves a Rhai Pobl
Braint ac anrhydedd yw cael croesawu Steve Eaves a'i fand i'r pentref. Dechreuodd ei yrfa yn y 1960au ac yntau'n teithio fel cerddor, gan berfformio mewn clybiau gwerin a lleoliadau cerddoriaeth eraill.
Cyhoeddodd ddau gasgliad barddoniaeth yn y 1980au, ac ymuno gyda grŵp y Beirdd Answyddogol a heriai'r sefydliad barddonol yng Nghymru ar y pryd. Mae'r Blues wedi bod o gryn ysbrydoliaeth iddo.
Yn 2011 cyflwynodd Radio Cymru wobr arbennig iddo am ymroddiad oes.
Bydd ein gwesteion yn mwynhau cinio nos tri chwrs yn y Gwesty cyn ymlwybro hanner canllath i Neuadd Ercwlff i fwynhau'r cyngerdd.

Dydd Sul • 31 Ionawr
Brecwast cyn canu'n iach
08:00 – 10:00
Brecwast cyn canu'n iach.


Ymunwch â ni ym Mhortmeirion
Penwythnos arbennig o gerddoriaeth, dirgelwch a naws y 1960au.
MAE’R PECYN HWN AR GAEL I WESTEION SY’N AROS YNG NGWESTY PORTMEIRION A LLOFFTYDD Y PENTREF YN UNIG.
Archebwch Nawr