Hafan dawel uwchlaw'r Traeth Bach
Bydd triniaethau'n amodol ar argaeledd ac fe'u cynlluniwyd ar sail diogelu eich iechyd a’ch lles.
Dylid sylwi, oherwydd cyfyngiadau statudol Covid-19, dim ond un cwsmer ar y tro gaiff fynediad i’r Sba. Bydd yr ystafelloedd triniaethau’n cael eu saniteiddio’n llwyr cyn pob triniaeth.
Rhaid talu ymlaen llaw cyn y gellir cadarnhau archeb am driniaeth. Cewch fynediad am ddim i bentref Portmeirion gydag archeb wedi ei chadarnhau.
Oherwydd cyfyngiadau ar y triniaethau sydd ar gael ni allwn gynnig ein triniaethau Diwrnod Sba a geir gyda’r Tocynnau Rhodd. Os oes gennych Docyn Rhodd byddwn yn falch i ddiweddaru’r dyddiad ichi i fod yn ddilys am 12 mis o’r 1af o Fawrth 2021. Anfonwch eich Tocyn(nau) Rhodd Sba i :
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu atom.
Dewiswch o un o'r pecynnau triniaeth 50 munud canlynol*
SBA DDYRCHAFOL
Profwch gyfuniad adfywiol sgwrio ysgafn i ddiblisgo’r cefn ac wedyn driniaeth bersonoledig i dylino’r cefn, gwddf ac ysgwyddau i godi’r ysbryd ac adfywio’r enaid.
Triniaeth 50 munud am £65.00
SBA YMLACIOL
Gadewch i’r driniaeth hon lacio’ch tyndra a’ch straen gyda glanburiad poeth i’r traed a thyliniad Swedaidd llawn i’r corff i’ch ymlacio’n llwyr.
Triniaeth 50 munud am £65.00
SBA LONYDDOL
Ymollyngwch i’r driniaeth hon o dylino gyda cherrig cynnes esmwyth ar hyd cefn y corff i liniaru tensiynau’r cyhyrau i’ch adfywio a’ch bywiogi.
Triniaeth 50 munud am £65.00
Amseroedd Agor: 10yb - 5yh dydd Mawrth - dydd Sadwrn o'r 1af Hydref 2020
Rhif cyswllt: 01766 772444 Ebost spa@portmeirion.cymru
O ran cwrteisi i westeion eraill ac i’n therapyddion, gofynnwn i westeion y sba gadw at ein polisi diddymu archebion: Rydym angen rhybudd 24 awr ymlaen llaw ar gyfer canslo archebion ac onis ceir byddwn yn codi 100% o bris y driniaeth. Diolch am eich cefnogaeth a diolch am gadw at bolisi archebion y sba.