AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Ymddygiad yn y Sba

Ymddygiad yn y Sba

Bydd yr awgrymiadau yma'n gymorth ichi ddeall yr hyn a ddisgwylir o ran ymddygiad gwesteion a staff

Gall sefyllfa ddiarth greu pryder ac felly gobeithio y bydd y nodiadau yma'n gymorth i'ch cynefino â threfniadau'r sba. Ein nod yw sicrhau amgylchedd braf a hamddenol ichi fwynhau profiad ymlaciol.

Darllenwch isod i ddysgu mwy am atebion i gwestiynnau cyffredin am reolau'r spa er mwyn sicrhau y cewch Ddiwrnod Moethuso neu Seibiant Sba wrth eich bodd. 


Ymddygiad yn y Sba

PA ADNODDAU SYDD GENNYCH? 

Rydym yn cynnig triniaethau Sba yn hytrach na gwasanaethau Sba llawn.

PRYD DYLWN I GYRRAED? 

Os gwelwch yn dda dewch 15 munud cyn eich triniaeth gyntaf. Bydd hyn yn caniatáu inni gwblhau ymgynghoriad gyda chi. Ar gyfer triniaethau dilynnol, dewch 5 munud cyn eich triniaeth. 

BETH OS BYDDAF YN HWYR I'R APWYNTIAD? 

Yn anffodus os byddwch yn hwyr i'r apwyntiad dim ond yr amser sydd ar ôl o'r amser a drefnwyd fydd ar gael. 

POLISI CANSLO 

Mae pob triniaeth yn amodol ar argaeledd. I ogsoi siom dylech drenfu apwyntiad ymlaen llaw. O ran cwrteisi i westeion eraill ac i’n therapyddion, gofynnwn i westeion y sba gadw at ein polisi diddymu archebion: Rydym angen rhybudd 24 awr ymlaen llaw ar gyfer canslo archebion ac onis ceir byddwn yn codi 100% o bris y driniaeth. Diolch am eich cefnogaeth a diolch am gadw at bolisi archebion y sba.

BETH OS OES GENNYF YSTYRIAETHAU IECHYD? 

Mae’r holl driniaethau a drefnir yn amodol ar statws meddygol. Rhowch wybod i ni am unrhyw gyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd cyn cyrraedd y sba, os gwelwch yn dda.


Os ydych yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â’ch meddyg cyn archebu eich triniaethau. Os ydych yn ansicr a allai cyflwr meddygol eich atal rhag cael triniaeth neu os ydych yn cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar hyn o bryd, os oes gennych alergedd neu os ydych yn feichiog, ffoniwch ymlaen llaw i drafod opsiynau triniaeth addas. 


Er mwyn diogelu iechyd a lles ein staff a’n cleientiaid, gwrthodir triniaeth i unrhyw gleient sydd yn amlwg yn sâl. Os byddwch yn sâl, gofynnwn i chi ganslo eich apwyntiad o fewn y polisi canslo 24 awr a amlinellir uchod, os gwelwch yn dda.
Cynhelir triniaethau yn amodol ar gwblhau ffurflen ymgynghoriad iechyd foddhaol. 

BETH DDYLWN EI WISGO I'R DRINIAETH? 

Gallwch ddefnyddio'ch dillad isaf eich hyn neu fe fedrwn ddarparu dillad isaf glanwaith, tafladwy. Bydd ein therapyddion wastad yn defnyddio tyweli i barchu'ch preifatrwydd. 

A GEITH PLANT FYNYCHU'R SBA? 

Ni allwn gynnig triniaethau i rai dan 18 oed. 

A GAF DDEFNYDDIO FY FFÔN YN Y SBA? 

Ceisiwn sicrhau amgylchedd o dawelwch ichi yn y sba a byddwn yn ddiolchgar ichi am ddiffodd eich ffôn symudol yn ystod eich ymweliad. 

EIDDO GWERTHFAWR 

Gofynnwn ichi sicrhau eich bod yn cofio mynd â'ch eiddo personnol gyda chi wrth adael y sba gan na allwn fod yn gyfrifol am eiddo coll. Os byddwn yn cael hyd i eiddo coll byddwn yn ei drosglwyddo i'r adran cadw tŷ yn unol â pholisi eiddo coll y gwesty. 



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more