Ein Triniaethau
Sba Môr-Forwyn Portmeirion yw’r lle delfrydol ichi ymlacio gorff ac enaid. Croeso i westeion sy’n aros yn y gwesty a gwesteion dydd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o driniaethau llesol gan gynnwys tylino, sgwriaethau a thriniaethau cerrig poeth.
Mynediad am ddim i bentref Portmeirion gydag thriniaethau a drefnwyd ymlaen llaw.
O ran cwrteisi i westeion eraill ac i’n therapyddion, gofynnwn i westeion y sba gadw at ein polisi diddymu archebion: Rydym angen rhybudd 24 awr ymlaen llaw ar gyfer canslo archebion ac onis ceir byddwn yn codi 100% o bris y driniaeth. Diolch am eich cefnogaeth a diolch am gadw at bolisi archebion y sba.
Profwch gyfuniad adfywiol sgwrio ysgafn i ddiblisgo’r cefn ac wedyn driniaeth bersonoledig i dylino’r cefn, gwddf ac ysgwyddau i godi’r ysbryd ac adfywio’r enaid.
Triniaeth 50 munud am £65.00
Gadewch i’r driniaeth hon lacio’ch tyndra a’ch straen gyda glanburiad poeth i’r traed a thyliniad Swedaidd llawn i’r corff i’ch ymlacio’n llwyr.
Triniaeth 50 munud am £65.00
Ymollyngwch i’r driniaeth hon o dylino gyda cherrig cynnes esmwyth ar hyd cefn y corff i liniaru tensiynau’r cyhyrau i’ch adfywio a’ch bywiogi.
Triniaeth 50 munud am £65.00