Syniadau ar gyfer encil rhamantus ym mhentref Portmeirion
2020-01-29
Mae Dydd Gŵyl San Ffolant ar y gorwel, a does unlle gwell i’w dreulio na phentref hudolus Portmeirion! Darllenwch rhai o’n cynghorion gorau i’ch helpu i dreulio’ch Gŵyl San Ffolant orau erioed, gyda’r holl bosibiliadau y mae encil rhamantus ym mhentref Portmeirion yn eu cynnig.
- Dau yn mynd am dro
Beth am gerdded law yn llaw o amgylch ein pentref deniadol? Mae yma adeiladau lliwgar a sgwâr trawiadol yng nghanol y pentref, a gallwch ddilyn dros 19 o filltiroedd o lwybrau’r Gwyllt, neu grwydro traethau euraidd aber afon Dwyryd. Dyma gyfle i ddianc rhag prysurdeb bywyd a thrwytho’ch hunan a’ch cariad yn harddwch byd natur i ddathlu Gŵyl San Ffolant.
- Mwynhau pryd blasus o fwyd
Cewch ddewis o blith ein bwytai arobryn am flas ar seigiau hyfryd. P’un ai ciniawa moethus ai pryd mwy hamddenol sy’n apelio, mae gan fwytai Portmeirion rywbeth at ddant pob cwpl sy’n chwilio am bryd rhamantus i ddathlu Gŵyl San Ffolant. Beth am rannu hufen iâ traddodiadol o Gaffi’r Angel i bwdin?
- Sipian siampaen a choctels
Ewch draw i’r bar a’r teras i fwynhau golygfeydd hynod o’r pentref ac aber afon Dwyryd wrth sipian diod. Neu gallwch ymlacio yng nghysur cynnes y tân yn lolfa Castell Deudraeth, sy’n gweini cwrw, seidr a gwirodydd Cymreig lleol.
- Aros mewn llety moethus
Eisiau gwneud argraff dda? Llogwch swît neu lofft yn ein prif westy neu yng Nghastell Deudraeth am brofiad moethus. Neu a fyddai’n well gennych chi gilio i dawelwch cysurus? Manteisiwch ar wyliau annibynnol yn un o’n bythynnod hunan-arlwy i fwynhau encil rhamantus delfrydol.