10 Rheswm i ymweld â phentref Portmeirion yn 2020
2020-01-21
Ar drothwy degawd newydd, dyma fwrw golwg ar ddeg rheswm da i ymweld â phentref Portmeirion eleni.
1. 60 Blynedd o’r Beatles
Mae’n 60 blynedd eleni ers ffurfio’r band roc eiconig, ond wyddoch chi fod cysylltiadau gan y Fab Four â phentref Portmeirion a Harlech? Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 22 Chwefror ar gyfer digwyddiad cyffrous i ddathlu gyrfa’r band yn cynnwys sgyrsiau gan artistiaid a oedd yn adnabod y Beatles ac yn chwarae gyda nhw, a bydd dwy set fyw gan The Shakers. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael, felly archebwch nawr i osgoi cael eich siomi. Gallwch ddarllen mwy am ein digwyddiad “60 Blynedd o’r Beatles” yma.
2. Ar Grwydr bob Tymor
Mae cyfleoedd di-ri i fwynhau’r awyr agored ym mhentref Portmeirion, yn cynnwys coedwig isdrofannol, gardd Siapaneaidd, gardd Fictoraidd a llawer iawn mwy i’w ddarganfod yn y pentref ac ar hyd aber afon Dwyryd. Dewch yn y gwanwyn i fwynhau’r blodau hardd, neu i grwydro ar ddiwrnod braf o haf; mae lliwiau’r hydref yn werth eu gweld, a’r pentref yn llawn naws Nadoligaidd yn y gaeaf. Mae yna rywbeth i’w ddarganfod yma gydol y flwyddyn!
Gallwch ddarllen mwy am ein gerddi a’r aber yma.
3. Diwrnod Agored Priodasau
Chwilio am y lleoliad delfrydol i briodi? Dewch i ddarganfod beth sydd gan bentref Portmeirion i’w gynnig yn ein Diwrnod Agored Priodasau ddydd Sadwrn 29 Chwefror. Dewch i weld y cyfleusterau sydd ar gael i gynnal priodasau a derbyniadau, sy’n gweddu i briodasau bach a mawr. Bydd cyfle hefyd i gwrdd â’n trefnwyr priodasau ynghyd â chyflenwyr lleol, i roi hwb ichi wrth drefnu eich diwrnod arbennig. Mwy o wybodaeth ar ein tudalen Diwrnod Agored Priodasau.
4. Rhedeg y 6ed Llwybr
Ydych chi’n chwilio am her i’ch ysgogi i fagu ffitrwydd eleni? Os felly, beth am gofrestru ar gyfer y 6ed Llwybr, sef 6K o amgylch y Gwyllt ddydd Sadwrn 28ain Mawrth? Mae’r digwyddiad hwn yn croesawu’r teulu oll ac yn cynnwys gwobrau unigryw. Gallwch gofrestru rŵan, felly ewch draw dudalen y 6ed llwybr i gofrestru.
5. Dathlu Achlysur Arbennig
Beth bynnag fo’ch achlysur, boed yn ben-blwydd, yn ben-blwydd priodas, yn ddyweddïad, neu ddim ond awydd rhoi trît arbennig i rywun, Portmeirion yw’r lle delfrydol i ddathlu! Gallwch dreulio noson neu ddwy yn un o’r amrywiaeth eang o opsiynau llety sydd ar gael yma, o blasty Fictoraidd castellaidd i fwthyn hunan-arlwy cysurus. Mae yma hefyd ddewis arbennig o fwytai a chaffis arobryn ar gyfer swper moethus neu de prynhawn. Mae ymweliad â phentref Portmeirion yn siŵr o blesio!
6. Cynhadledd Flynyddol y Prisoner
Unwaith eto, bydd selogion y gyfres deledu gwlt o’r 1960au, The Prisoner, yn ymgynnull ym mhentref Portmeirion ar gyfer ein cynhadledd flynyddol, a gynhelir gan y Six of One Prisoner Appreciation Society. Mae’r penwythnos hwn o ddathlu’r gyfres – a gafodd ei ffilmio yma ym mhentref Portmeirion – yn cynnwys sgyrsiau a pherfformiadau, ac mae’n llawn hwyl!
Gallwch ddysgu mwy am Gynhadledd y Prisoner yma.
7. Cyfle i fwynhau gwyliau Hunan-arlwy
Gallwch logi un o’n 13 o fythynnod hunan-arlwy unigryw; maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau yng Ngogledd Cymru. Ymunwch â ni am benwythnos hir neu wyliau hwy; boed yn benwythnos gŵyl y banc, gwyliau teuluol gyda’r plant, neu am hoe fach yn harddwch pentref Portmeirion.
Mwy o wybodaeth am ein bythynnod hunan-arlwy yma.
8. Bwydydd blasus
Mae Portmeirion yn cynnig amrywiaeth eang o opsiynau bwyta allan yn cynnwys ciniawa moethus, te prynhawn blasus, ffefrynnau Eidalaidd, gelato Eidalaidd traddodiadol, a seigiau hamddenol blasus yn ein brasserie a dewis o gaffis. Mwy o wybodaeth am yr opsiynau bwyta yma.
9. Prynu’n Lleol
Dewch i bori’r amrywiol siopau llyfrau a siopau anrhegion ym mhentref Portmeirion, lle gallwch brynu anrhegion unigryw, Crochenwaith Portmeirion, cynnyrch lleol o Gymru a nwyddau o’r gyfres deledu gwlt, The Prisoner. Cliciwch yma am wybodaeth ynghylch ein siopau.
10. Gŵyl Fwyd a Chrefft
I’r rhai sy’n cael blas ar fwydydd da, cynhelir ein Gŵyl Fwyd a Chrefft eto ym mis Rhagfyr 2020, gyda mwy na 120 o stondinau crefftwyr, arddangosiadau coginio, cerddoriaeth ac Ogof Siôn Corn. Mwy o wybodaeth am yr yr ŵyl fwyd a chrefftau yma..
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i bentref Portmeirion yn 2020!