Gofalu am eich Croen yn Ystod y Gaeaf
2019-02-06
Dyma gynghorion defnyddiol gan Rebecca Hughes, rheolwr Sba’r Fôr-forwyn, i’ch helpu i ofalu am eich croen yn ystod y gaeaf.
- HYDRADU HANFODOL
I gadw’ch croen yn iach ac yn ddisglair, yn enwedig yn ystod misoedd oer y gaeaf, defnyddiwch hufen lleithio fel Tropics Skin Feast. Dylid ei ddefnyddio yn y bore ac wrth noswylio.
- SGRWBIO AM SGLEIN
Dylid sgrwbio’r croen o leiaf unwaith yr wythnos. Byddwch yn ofalus nad ydych yn gwneud yn amlach na hyn rhag ichi beri plorod ac ati ar y croen.
- MASG A MALDOD
Dylid defnyddio masg hydradu ar yr wyneb o leiaf unwaith yr wythnos. Gall masg ‘llyfnu’r wyneb’ helpu’r croen ddisgleirio ar ôl misoedd tywyll a llwm y gaeaf, ac mae’n rhoi hwb i groen dilewyrch, gwelw.
Os hoffech brynu nwyddau o gasgliad Tropics, cysylltwch â Sba’r Fôr-forwyn.