AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

AROS YN SWȊTS Y PENTREF

2023-03-15

SWȊT Y GYFARCHFA

Yn wreiddiol, Swît y Gyfarchfa (1 a 2 – ystafelloedd dwbl y pentref) oedd y bloc Stablau a’r Porthdy pan y gelwir y pentref yn Aber Iâ, cyn i Syr Clough Williams-Ellis brynu’r safle.

Wrth Syr Clough roi ei stamp arbennig ei hun ar y talcen yr ochr dde’r adeilad, arferai’r adeilad fod yn gaffi yn 1931 gan oedd rhaid sicrhau noddfa gan fod nad ddiffyg lle yn y Gwesty. Roedd yr adeilad hefyd wedi bod yn siop yn gwerthu nwyddau sef lle mae hi dal yn sefyll nawr yn dilyn ei hagoriad gan ferch Syr Clough sef Susan Williams-Ellis.

Yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth ar yr adeilad nol yn 2021, mae Swît y Gyfarchfa yn cynnig golygfeydd godidog o ganol y pentref – yn enwedig o’r balconi.

Mae modd cyrraedd yno drwy ddringo cyfres fechan o risiau llechi Gymreig a drws traddodiadol sydd yn eich arwain at lolfa fodern arwahan, cegin fechan, peiriant Espresso, rhewgell, gwely moethus pedwar postyn wedi’i osod yn gywrain gyda dillad gwely cotwm Eifftaidd, ystafell ymolchi en -sutie yn cynnwys cawod ‘cerdded i mewn’. Yn wir, mae Swît y Gyfarchfa yn lety gwyliau delfrdol gan iddo hawlio lleoliad mor ganolog yn y pentref.

Tŵr Telford a’r Uncorn

Adeiladwyd Tŵr Telford er mwyn nodi daucanmlwyddiant Thomnas Telford, y Peirannydd Sifil fyd enwog. Mae’r tŵr yn nodweddu ffenest oriel, grisiau troellog a tho llechi ac ar ô lei gyflawni, y person cyntaf a gaeth y pleser o aros yno oedd un o deuloedd Breninol Oman!

Mae Tŵr Telford a’r Uncorn ill dau yn Ystafelloedd ar gyfer y Teulu yn cysgu hyd at bedwar gwestai mewn un bwthyn. Mae gan bob un o’n hystafelloedd teulu ddwy ystafell wely dwbwl ar wahân gyda ystafelloedd ymolchi, ac mae rhan fwyaf ohonynt yn en suite mewn oleiaf un o’r ystafelloedd gwely.

Drwy fynediad o’r tu cefn, gellir dod a char i du cefn y tŵr a pharcio’n agos. Mae dyluniad mewnol y tŵr wedi’i gynllunio’n ofalus a manwl ac yn cynnwys ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod (gellir addasu’r ystafell yn ystafell twin pe bai angen) ystafell fyw gyda aelwyd tân trydan, cegin fechan gyda peiriant espresso a yna ym mhen tŵr y mae Ystafell y Tŵr.

 
Yn adeilad arddull Palladian, sydd wrth gwrs yn ymatebiad o waith y pensaer Andrea Palladio, fe ddisgrifiodd Syr Clough yr Uncorn fel un o’i hoff adeiladau. Gyda saith ffenest a phedwar piler, byddai’n crybwyll ei fod yn enghraifft o egwyddor na raid i ddyluniad da gostio dim mwy na dyluniad gwael.
Weithiau, fe adweinir fel y ‘Chatsworth Bach’, a dim ond rhaid ichi fynd o rownd y cefn i weld ei wirionedd – yn wir mae ei orchestrwydd yn diflannu wrth ichi dystio hynny a fe sylwch mai dim ond bynaglo to fflat ydyw.
Gyda mynediad drwy set o risiau bychan wedi’i haddurno gyda lliwiau clasurol Portmeirion, maen cynnwys dodrefn o gyfnod traddodiadol, ystafell fyw ganolog a chegin fach, gyda dwy ystafell wely dwbl (gellir addasu i ysafell dau wely pe bai angen).
Mae ein hystafelloedd teulu yn berffaith ar gyfer grwpiau a theuluoedd a chyplau fel ei gilydd. Yr ystafelloedd ar gael yw Fila Wins, Porthdy’r Siantri a Rhesdai Siartiau 2.
 
YR ANGOR A’R FFYNNON
 
Cynlluniwyd yr Angor yn 1930 a’r Ffynnon ychydig wedi hynny. Wedi’i leoli ar waelod y pentref, yn wreiddiol yr oedd Yr Angor yn chwe ystafell wely fechan a gafodd ei drawsnewid yn dair Swît Fawr wedyn yn 1990. Mae adeilad y Ffynnon hefyd yn cynnwys dwy Swît. Os yr ydych yn chwilio am lety gyda golygfeydd godidog o’r aber heb os nac oni bai, dyma’r llety gwyliau i chi.
 
Ceir mynediad iddo drwy gyfres o risiau carreg o bob ochr arddull draddodiadol y pentref (gyda darnau ohono ychydig yn fwy cyfoes) a phob un yn cynnwys lolfa, ceginau bach a llofftydd en-suite a ffenestri pwrpasol er mwyn mwynhau’r golyfeydd syfrdanol o Aber y Ddwyryd, y pwll nofio allannol, cynnes ac eiconig a gafodd ei osod yn y saithdegau.
 
Y mae’r Angor wedi’i addurno gyda murlun Neifion a gafodd ei baentio gan Hans Feibush, arlunydd a gafodd loches gan Clough yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gwir i’w ddweud hefyd mai yn adeilad Y Ffynnon y gwnaeth y dramodydd arobryn, Syr Noel Coward ysgrifennu ei gampwaith, Blythe Spirit. Gorfu iddo ffoi y bomio mawr Llundain yn ystod y blitz, ac fe ysgrifennodd o’r ddrama o fewn pum niwrnod.
 
Os hoffech ragor o wybdoaeth am yr amrwyiol lety sydd ar gael, mae pob croeso i chi gysylltu gyda ni yn ein hadran lety:
 
01766 770 000
 
aros@portmeirion.cymru


Blaenorol

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more