Cynllun Twf Gogledd Cymru
2024-06-04
Cyfleoedd tendro newydd i ddatblygu Twristiaeth lletygarwch yng Ngogledd Cymru
Mae partneriaid Rhwydwaith Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cyfleoedd tendro newydd i ddatblygu’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru. Fel rhan o'r cynllun hwn mae Portmeirion yn anelu at wella afonau addysgol a chyfleoedd hyfforddi yn yr ardal. Gwahoddir busnesau i gyflwyno ceisiadau ar gyfer elfennau adeiladu’r prosiectau a fydd yn rhoi hwb i’r sector ac yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’w gweithlu yn y dyfodol ar gyfer yr oes ddigidol. Bydd Portmeirion yn sefydlu Academi Croeso Portmeirion fel rhan o’r prosiect yma ac yn awyddus i benodi contractwr i godi estyniad i adeilad presennol i greu llety ar gyfer
prentisiaid, a gosod parth addysgu a dysgu newydd gan gynnwys cegin hyfforddiant a phrofiad addysgu. Gall busnesau sydd â diddordeb mewn tendro ar gyfer y cyfle hyn lawrlwytho’r pecyn tendro llawn trwy ymweld â GwerthwchiGymru.