AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

POBL PORTMEIRION YN SÊR CYFRES DELEDU NEWYDD

2019-04-09

Bydd The Village yn cwrdd â rhai o’r dynion a’r merched sy’n helpu i redeg un o atyniadau ymwelwyr pennaf Cymru.

O’r pen-cogydd a’r garddwr, i’r peintiwr ac addurnwr, mae pob un yn dangos i ni beth mae’n ei gymryd i gadw cyrchfan mor arwyddocaol yn rhedeg ar ei orau. 

Mae’r camerâu wedi cael mynediad unigryw i ddangos blwyddyn ym mywyd y gymuned eiconig hon ger Porthmadog yng Ngwynedd.

Mae’r camerâu’n cyfleu harddwch pedwar tymor gogoneddus a chylch bywyd y dynion a’r merched sy’n geidwaid ar y pentref sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘lledrith; cyferbyniad chwareus’.

Mae Portmeirion yn edrych fel hen bentref Eidalaidd. Ond fe’i hadeiladwyd rhwng 1925 a 1973 gan y pensaer gweledigaethol Syr Clough Williams-Ellis.
 

Heddiw, ei ŵyr, Robin Llywelyn, yw arweinydd y tîm sy’n rhedeg y pentref.

Meddai Robin, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion Cyf, wrth y rhaglen: “Mae Portmeirion wirioneddol yn ymgorfforiad o weledigaeth Clough o’r harmoni rhwng gwaith llaw dyn a’r byd naturiol.”

“Y peth mwyaf atgas gan Clough oedd meddwl y byddai’r lle’n troi’n rhyw fath o amgueddfa. 

“Roedd am i’r lle fod yn fyw, a bod yn lle a fyddai’n ysbrydoli ac yn ei gwneud yn bosibl i ddigwyddiadau gael eu cynnal ac i bethau ddigwydd yno.”

Portmeirion oedd llwyfan y rhaglen deledu arloesol yn y chwedegau, The Prisoner. Erbyn hyn, mae’n croesawu tua 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae’r gyfres newydd yn cynnwys amrywiaeth o gymeriadau, ac mae rhai ohonynt yn gweithio ym mhentref Portmeirion ers degawdau. 

Mae Martin Couture wedi bod yno am 42 o flynyddoedd – dechreuodd weithio yno pan oedd yn ddim ond 16 mlwydd oed.

Ef yw’r Prif Beintiwr ac Addurnwr bellach, ac mae’n dweud wrth y rhaglen sut mae’n gwneud ei waith o gynnal y lliwiau a’r steil a osododd Syr Clough wrth i’r pentref gael ei adeiladu. 

“Mae gennym tua 80 o wahanol liwiau yma a rhaid i ni gadw cofnod o bob lliw a ddefnyddiwn.

“Rydyn ni’n ysgrifennu popeth i lawr rhag ofn y bydd angen ail-rendro adeilad. Wedyn, rydyn ni’n gwybod bod y lliw cywir gennym i’w adfer fel ag yr oedd pan roddodd Syr Clough y lliwiau gwreiddiol arnynt.”

Mae’r Rheolwr Cadw Tŷ Rhian Roberts hefyd yn ymddangos yn y gyfres. Mae hi’n helpu i edrych ar ôl y ddau westy pedair seren a’r holl fythynnod gwyliau ar y safle. 

“Ein gwaith ni yw cadw’r bobl sy’n dod yma mor fodlon â phosib, a dyna’n nod ni a dweud y gwir, ynte?”

“Rydw i’n gweithio yma ers 22 o flynyddoedd. Pam ydw i wedi aros mor hir? Wel, rydw i’n hoff iawn o’r lle. Rydw i’n mwynhau fy ngwaith.”
 
Un arall o sêr y gyfres yw Meurig Jones, Rheolwr Lleoliad, sy’n edrych ar ôl llawer o’r criwiau ffilmio sy’n ymweld â phentref Portmeirion o bedwar ban byd.

Ganddo ef hefyd mae ymwelwyr yn clywed hanes y pwysigion sydd wedi aros yn y pentref, o Brian Epstein, rheolwr y Beatles, a oedd gan fwthyn ym mhentref Portmeirion am flynyddoedd yn y 1960au cynnar, i Jerry Lee Lewis a George Harrison, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 50 mlwydd oed yno.

“Roedd Clough wastad eisiau i bentref Portmeirion apelio i bobl greadigol ac wrth gwrs mae’n lleoliad campus ar gyfer bob math o wahanol bethau.

“Dyma rywle y mae rhywun yn dod i deimlo’n perthyn yn agos iddo. Fedra i ddim dychmygu mynd i unman arall a dweud y gwir.”

Y gyfres ITV yw’r diweddaraf i ddathlu cymunedau amrywiol Cymru. Mae’n dilyn The Mountain, a oedd dilyn hynt pobl sy’n byw a gweithio o gwmpas yr Wyddfa yn 2015, The Harbour, yn Ninbych y Pysgod yn 2017 a The Strait – cipolwg ar gymunedau o boptu Afon Menai yn 2018.

Darlledwyd The Harbour a The Strait ar rwydwaith cyfan ITV. Bydd The Village hefyd yn cael ei darlledu ar rwydwaith ITV yn y dyfodol.

Crëwyd pob un o’r cyfresi tra llwyddiannus hyn gan Aled Llŷr o’r cwmni cynhyrchu annibynnol bwtîc Slam Media mewn partneriaeth â Cread Cyf, cwmni cyfryngau a dylunio brand o Ynys Môn a’i reolwr gyfarwyddwr Stephen Edwards.

Meddai Aled: “Mae’r gyfres hon yn deyrnged i le rhyfeddol a’r bobl arbennig sy’n rhoi bywyd i’r lle. Mae cofnodi eu hangerdd a’u cariad ar y Pentref unigryw hwn wedi bod yn bleser o’r mwyaf.”

Ychwanegodd Stephen: "Mae wedi bod yn flwyddyn hudolus o ffilmio. Fedrwn ni ddim disgwyl i bobl weld y gyfres.”

Yn ôl Jonathan Hill, Cynhyrchydd Gweithredol y gyfres i ITV Cymru Wales, dyma “olwg go arbennig ar sut caiff un o leoliadau enwocaf a mwyaf eiconig Cymru ei redeg”.

Ychwanegodd Robin Llywelyn: “Roedd yn bleser cael y criw ffilmio gyda ni dros y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at y gyfres.

“Gobeithiwn y bydd pawb yn mwynhau gwylio!”

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar ITV Cymru Wales am 8yh nos Llun 15 Ebrill a bydd wedyn ar gael ar-lein ar itv.com/walesprogrammes
 

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more