Pasg ym mhentref Portmeirion
2019-04-09
Mae Gwyliau’r Pasg bron â chyrraedd ac mae gennym lu o bethau cyffrous ar y gweill ym mhentref Portmeirion. Dewch i fwynhau gwledd i’r synhwyrau’r Pasg hwn gydag amrywiaeth o weithgareddau tymhorol arbennig i ddiddanu’r teulu oll.
Mae adeiladau lliwgar a golygfeydd trawiadol pentref Portmeirion yn bleser i edrych arnynt. Bydd teithiau tywys ar ddwy droed a thripiau ar drên y gwyllt ar gael am ddim yn ddyddiol dros wyliau’r Pasg. Ar ddydd Sul y Pasg, bydd cyfle i’r plant gymryd rhan yn ein Helfa Basg. Ewch i chwilota o gwmpas y pentref am docynnau wedi’u cuddio i ennill amrywiaeth o wobrau.
Ymysg blodau a lliwiau’r gwanwyn, dewch i wrando synau natur yn ein coedwig 70 erw. Dewch i ganfod yr adar, y gloÿnnod a’r gwenyn y mae Portmeirion yn gartref iddynt gyda’r dewis i grwydro dros 20 milltir o lwybrau natur arfordirol a choediog.
Dewch i gael eich ysbrydoli gan arddangosfa Cromen y Canfod, sy’n cynnwys crochenwaith a chreiriau sy’n gysylltiedig â phentref Portmeirion i helpu ymwelwyr i ennyn dealltwriaeth bellach o’r safle a’i ddatblygiad.
Yn olaf, beth am fwynhau cinio Sul blasus neu de prynhawn moethus yng Ngwesty Portmeirion? Argymhellir i chi gadw bwrdd o flaen llaw.