AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Ymweld â phentref Portmeirion

Ymweld â phentref Portmeirion

Coleddu'r Gorffennol, Addurno'r Presennol, Adeiladu ar gyfer y Dyfodol

fe fydd y pentref ar gau i bawb rhwng

9fed - 30ain o ionawr 2023.

 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu nol yma o'r

30ain o Ionawr 2023.

 

 

PWT O'R HANES

 

Adeiladwyd Portmeirion gan y pensaer Clough Williams-Ellis o 1925 i 1976 er mwyn dangos sut y gellid datblygu safle o harddwch naturiol heb ei ddifetha. Mae pentref a gerddi Portmeirion yn un o brif atyniadau Cymru ac yn croesawu dros 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

 

ADNODDAU'R SAFLE

 

Mae nifer o gaffis ar agor yn y pentref. Cewch brydau parod a diodydd poeth ac oer yng Nghaffi’r Neuadd a gellir mwynhau'r rhain wrth fyrddau y tu mewn i'r Neuadd neu wrth fyrddau picnic ledled y pentref.

Mae Caffi’r Sgwâr ar Sgwâr y Batri yn cynnig te, coffi a byrbrydau i fynd.

 Gelateria  Eidalaidd yw Caffi’r Angel a hwnnw’n cynnig hufen iâ gelato cartref yn ogystal â the, coffi a byrbrydau.

O ran y siopau, mae pedair ar agor yn y pentref: Siop Rhif 6 yn gwerthu eiliadau Crochenwaith Portmeirion yn ogystal â chyffeithiau, gwinoedd a melysion; Siop y Carcharorion gyda chofroddion o'r gyfres enwog a ffilmiwyd yma ym 1966-67, Oriel Rob Piercy a The Ship Shop gydag anrhegion, teganau, cymhariaethau tŷ a nwyddau gorau Crochenwaith Portmeirion.

Mae ym Mhortmeirion ddau westy , sef Gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth. Ar dywydd braf o ddydd Llun i ddydd Sadwrn bydd cinio ar gael ar Deras y Gwesty gyda byrddau â golygfeydd dros y Traeth Bach tuag at Llanfihangel-y-Traethau a Moel Ysgyfarnogod (oherwydd anwadalwch y tywydd ni ellir cadw bwrdd ymlaen llaw). Ar y Sul bydd y Gwesty'n cynnig Cinio Sul traddodiadol yn y bwyty (mae gofyn cadw bwrdd ymlaen llaw ar 01766 772440 neu 01766 770000). Gweinir Te Pnawn yn lolfeydd y Gwesty o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng dau a phedwar o’r gloch (mae gofyn cadw bwrdd ymlaen llaw ar 01766 772440 neu 01766 770000). Cewch fynediad am ddim i’r pentref wrth gadw bwrdd ymlaen llaw ar gyfer Cinio Sul neu ar gyfer Te Pnawn.

Mae Castell Deudraeth ar y dreif yn cynnig bwydlen cinio dau gwrs a bwydlen Cinio Sul tri chwrs ac mae’r bwyty hefyd ar agor gyda'r nos. Ceir tocyn mynediad i Portmeirion ar ôl cinio dau gwrs sydd wedi’i archebu ymlaen llaw. Gellir cadw bwrdd ar 01766 772400.

Mae gan Portmeirion dri ar ddeg o fythynnod hunan-arlwyo a’r rheini’n cael eu gosod Sadwrn i Sadwrn ac yn y gaeaf gellir eu llogi o ddydd Gwener i ddydd Llun hefyd. Gellir llogi rhain ar-lein neu dros y ffôn ar 01766 770000.

PRYNU TOCYNNAU YMLAEN LLAW?

 

Nid oes angen prynu tocynnau mynediad ymlaen llaw i ymweld â’r pentref . Mae tiriogaeth Portmeirion yn ymestyn dros 70 o erwau gan gynnwys coedwig is-drofannol y Gwyllt oddi amgylch y pentref a milltiroedd o draethau gwynion ac nid oes perygl i’r lle or-lenwi. 

Cŵn
Cŵn Tywys yn Unig

Mynediad am ddim
Hefo cinio dau gwrs yng Ngastell Deudraeth

Mynediad am ddim
Gydag byrddau cadw am Ginio Sul a The Pnawn yng Ngwesty Portmeirion

Plant
Plant dan 5 am ddim

Y TOLLBORTH A’R ARDAL GROESO


Ardal y Tollborth a’r Ganolfan Groeso yw prif fynedfa’r pentref gyda thoiledau cyhoeddus gerllaw ynghyd â Chaffi Rhif 6 a’r maes parcio i goestsys.

AROS

BWYTA

Siop

PEN CLOGWYN A RHESDAI’R SIANTRI


Ceir golygfeydd trawiadol o’r Traeth Bach o ben clogwyn Rhesdai’r Siantri. Mae llwybr i’r Wylfan ar y clogwyn a’r Ogof Gregyn o fwa’r Gatws. O dan y Ty Pont gellir clywed llais Clough Williams-Ellis yn adrodd peth o hanes codi’r pentref. Uwchlaw’r ffordd mae’r Gromen gydag arddangosfeydd tymhorol. Ceir rhagor o wybodaeth yn y Ganolfan Groeso.

AROS

SGWÂR Y BATRI A’R TŴR CLYCHAU


Ar Sgwâr y Batri mae Sba’r Fôr-forwyn. Os cerddwch draw at Sba’r Fôr-forwyn, fe gewch olygfeydd o'r Traeth Bach. Ar Sgwâr y Batri mae'r Tŷ Crwn, lle mae Siop y Prisoner, dyma lle roedd llety Rhif 6 yn y gyfres enwog The Prisoner. Uchafbwynt Sgwâr y Batri yw’r Tŵr Clychau gerllaw.

AROS

BWYTA

Siop

Y SGWÂR CANOL


Mae sgwâr canolog yn un o hanfodion unrhyw bentref Eidalaidd gwerth ei halen. Mae’r Sgwâr Canol ym Mhortmeirion yn cynnwys y ffynnon, yr Orchestfa, y Pafiliwn Gothig, Colofnres Bryste a’r bwrdd gwyddbwyll enfawr.

AROS

SGWÂR Y GYFARCHFA


Yn Sgwâr y Gyfarchfa, fe welwch Fwa'r Fuddugoliaeth a’r Siop y Llong. O’r Sgwâr y ceir rhai o’r golygfeydd gorau o’r pentref.

AROS

BWYTA

Siop

NEUADD Y DREF


Yn y rhan hwn o’r pentref mae ystafell hanesyddol Neuadd Ercwlff. Dyma neuadd gelfydd sy’n cynnwys nenfwd Jacobeaidd, paneli a ffenestri myliwn a achubwyd o Neuadd Emral yn Sir y Fflint.

AROS

BWYTA

Siop

Y GWESTY A PHEN CEI


Beth am fynd i grwydro’r Llwybr Arfordirol, yr aber, yr Amis Reunis, y Tŵr Gwylio a’r Casino i lawr wrth y Gwesty a Phen Cei? Yma, caiff gwesteion preswyl ymdrochi yn ein pwll nofio awyr agored wedi’i gynhesu (Mawrth–Hydref). Mae ystafelloedd achlysur preifat Ystafell y Drychau a Bwyty’r Traeth yn y rhan hwn o’r pentref hefyd.

AROS

BWYTA

Y GWYLLT


O Fwa'r Fuddugoliaeth ar Sgwâr y Gyfarchfa mae dau brif lwybr yn arwain i’r Gwyllt. Gyda 70 erw o goedwigoedd ac 20 milltir o lwybrau, mae’r Gwyllt yn gartref i drysorau cudd o bob math, yn cynnwys Mynwent y Cŵn, Gardd yr Ysbrydion, y Llwyn Dyrys a’r Llyn Tsieineaidd. Mae golygfeydd syfrdanol o’r pentref i’w gweld o’r Wylfa, a ddyluniwyd gan Susan Williams-Ellis i ddathlu canmlwyddiant genedigaeth Clough.

Castell Deudraeth


Removed from the main village, Castell Deudraeth stands proudly on the main drive in and out of the village. This area is home to several large car parks and a dedicated disabled car park, as well as 2 self-catering cottages. The Ricardo Pearce Suite private function room is located at Castell Deudraeth.

AROS

BWYTA



Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more