AROS YMA

Llofft Bwthyn Camper Van  1 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  2 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  3 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  4 gwesteion
Llofft Bwthyn Camper Van  5 gwesteion
Please select accomodation type
Welcome to the Portmeirion blog, where you'll find information on news, events and updates from the village.

Sul y Mamau Delfrydol ym Mhortmeirion

2019-03-07

Pwy bynnag rydych chi’n eu dathlu ar Sul y Mamau eleni, mae Portmeirion yn cynnig gwledd o ffyrdd y gallwch ddiolch i’r ddynes arbennig yn eich bywyd. 


Gallwch dreulio amser gyda’ch gilydd fel teulu yn amgylchoedd hardd Pentref Portmeirion a mynd am dro braf trwy’r gerddi, a fydd yn blodeuo’n lliwgar yn union mewn pryd i ddathlu diwrnod arbennig mam. 


I’r rhai sy’n mwynhau moethusrwydd, beth am dretio mam i de prynhawn arbennig yng Ngwesty Portmeirion? Bydd lolfeydd a theras y gwesty yn gweini te prynhawn ddydd Gwener y 29ain a dydd Sadwrn y 30ain o Fawrth – gyda gwydriad o swigod ac anrheg arbennig am ddim i bob mam. Mae tocynnau rhodd te prynhawn ar gael i’w prynu hefyd. Ffoniwch y gwesty i archebu neu i brynu tocynnau rhodd ar 01766 772440.


I’r mamau sy’n hoffi ychydig o faldod, mae Sba’r Fôr-forwyn ym Mhortmeirion ar agor drwy gydol penwythnos Sul y Mamau ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau i helpu mam i ymlacio a dadweindio. Gallwch archebu triniaeth arbennig neu ddiwrnod llawn yn y sba yn cynnwys cinio 2 gwrs yng Nghastell Deudraeth ac amrywiaeth o driniaethau therapiwtig. Beth bynnag y dewiswch chi, bydd mam yn siŵr o adael wedi ymlacio ac adfywio. Mae tocynnau rhodd i’r sba ar gael hefyd. I archebu pecyn neu driniaeth sba, neu i brynu tocynnau rhodd i’r sba, ffoniwch 01766 772444.


Chwilio am anrheg arbennig? Mae llond siopau Portmeirion o eitemau moethus y bydd mam yn siŵr o ddotio arnynt. Mae casgliad Côte Noire o wasgarwyr a chanhwyllau sent yn anrhegion delfrydol ar gyfer Sul y Mamau ac maen nhw’n siŵr o bara’n hwy na blodau ffres. Byddai unrhyw fam glam yn gwirioni o gael gŵn sidan Rose Fulbright wedi’i leinio, neu gallech ddewis anrheg o blith ein crochenwaith traddodiadol a modern. Mae tocynnau rhodd ar gael yn y siopau neu ar-lein ar portmeiriononline.co.uk  


Ni fyddai unrhyw ddathliad Sul y Mamau’n gyflawn heb ginio Sul arbennig. Tretiwch mam i ginio moethus yng Ngwesty Portmeirion, neu ginio Sul llai ffurfiol ym mwyty Castell Deudraeth. Pa un bynnag y dewiswch chi, cewch fwynhau bwyd, gwin a gwasanaeth Cymreig o’r safon uchaf. 


P’un a ydych chi’n chwilio am anrhegion ardderchog neu am ddiwrnod allan i ymlacio a mwynhau, dewch o hyd i’r trît delfrydol i blesio mam ym Mhortmeirion.

Blaenorol

Nesaf

Yn ôl





Cookie Policy

We use cookies to remember your settings, personalise content, improve website performance, analyse traffic and assist with our general marketing efforts. Learn more