Red Bull yn cynnal cynhadledd farchnata ym mhentref Portmeirion
2019-10-01
Daeth 82 o Swyddogion Marchnata o Red Bull UK i bentref Portmeirion ym mis Ebrill ar gyfer Cynhadledd Farchnata flynyddol Red Bull.
Pentref Eidalaidd lliwgar Portmeirion, a saif ar ei benrhyn preifat ei hun ar gyrion Eryri, oedd y lleoliad delfrydol ar gyfer Cynhadledd Farchnata Red Bull. Roedd bryd y trefnwyr ar leoliad unigryw i ysbrydoli ac ymlacio ei fynychwyr. Llwyddodd pensaernïaeth, golygfeydd a hanes Portmeirion i ysbrydoli tîm marchnata creadigol Red Bull.
Dewisodd y tîm gynnal eu cynhadledd ym mhentref Portmeirion gan eu bod eisiau cerdded i gopa’r Wyddfa, ac roedden nhw’n chwilio am leoliad trawiadol gerllaw. Roedd cyfleusterau Portmeirion yn cynnig llety hyblyg o safon, dewis da o fwyd, amrywiol ystafelloedd a mannau cynadledda, ac mae’n andros o le da i gael parti – dyna fodloni holl hanfodion cynadledda Red Bull. “Mae Portmeirion yn lleoliad sy’n adrodd stori, a does yna ddim naws corfforaethol i’r lle,” meddai Natalie Duval, Arbenigydd Arloesi Cymdeithasol yn Red Bull. “Roedden ni am wneud llawer o weithgareddau datblygu tîm, unioni a chynllunio busnes ac, wrth gwrs, mwynhau parti da! Portmeirion oedd y lleoliad delfrydol i gyflawni hynny oll. Mae’n dal i fod yn destun sgwrs ymysg ein staff!” ychwanegodd Natalie.
Trefnodd tîm Digwyddiadau Busnes Portmeirion i gael gosod ardal sawna a thwba twym ar y cei yn edrych allan dros yr aber preifat. Gallai’r mynychwyr ymlacio yn y twba twym, nofio yn nyfroedd yr aber a chwarae gemau pêl ar y traethau preifat. Cafwyd adloniant gyda’r nos fel rhan o’r gynhadledd, a chynhaliwyd cyngerdd ar y Sgwâr Canol a disgo yn Neuadd Ercwlff.
“Ar sail yr hyblygrwydd a natur gyfeillgar y tîm ym Mhortmeirion yn wyneb ein gofynion cymhleth ac amrywiol ar gyfer y digwyddiad hwn, mi fuaswn i’n sicr yn argymell Portmeirion fel lleoliad ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. A dweud y gwir, rydyn ni eisoes wedi trefnu cynhadledd arall ym mhentref Portmeirion ym mis Medi.” meddai Natalie.
Roedd mynychwyr y gynhadledd yn cynnwys Cyfarwyddwr Marchnata Red Bull UK Damian Marshall, a’r Pennaeth Rhaglennu a Datblygu Cynulleidfa, Tom Reding. Arhosodd tîm Red Bull ym mhentref Portmeirion am 2 noson, gan fwynhau llety yng Ngwesty Portmeirion, Castell Deudraeth a rhai o Lofftydd a Switiau unigryw’r Pentref.
Saif Pentref Eidalaidd Portmeirion ar ei benrhyn preifat ei hun, uwchlaw golygfeydd arfordirol hynod. Mae pentref Portmeirion yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd Cymru, ac mae’n cynnwys pensaernïaeth eiconig, gerddi hardd a choetiroedd eang, dau westy, bythynnod hanesyddol, sba a bwytai arobryn. Mae yma bump o ystafelloedd achlysuron, a llety ar gyfer 14 i 120 o fynychwyr. Mae cydlynydd cynadledda ar y safle yn cefnogi digwyddiadau busnes ym mhentref Portmeirion, er mwyn sicrhau bod pob elfen o’ch digwyddiad yn mynd rhagddo’n rhwydd.